Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl? Unwaith eto gyda dadleuon yn deillio o waith ein pwyllgor gwelwn ehangder y gefnogaeth, ehangder y syniadau a'r gydnabyddiaeth drawsbleidiol o ba mor bwysig, yn yr achos hwn, yw ein sector treftadaeth a diwylliannol i bob un ohonom.
Mewn ymateb i David Melding, roeddwn yn credu fy mod yn eithaf caredig tuag at Lywodraeth y DU. Roeddwn i'n gwneud fy ngorau. Dywedais fy mod yn falch eu bod wedi ei wneud, ond rwy'n credu y byddem i gyd y cydnabod, mae'n debyg, y byddai wedi bod yn well pe byddent wedi'i wneud ychydig yn gynt. Ond y pwynt y mae David yn ei wneud yn bwysig iawn am yr angen am fynediad at gyfiawnder cymdeithasol: a oes angen i ni roi blaenoriaeth i gael ein hysgolion o'n cymunedau tlotaf i mewn, ac oherwydd na all pawb fynd i mewn i'n hamgueddfeydd, a ddylem fod yn flaenoriaethau felly? Ac fe'm trawyd yn fawr gan yr hyn a ddywedodd am y ffordd y mae'r amgueddfa genedlaethol yn casglu straeon COVID. Bydd hon yn archif wych—yr holl leisiau na allem eu clywed 100 mlynedd yn ôl y byddwn yn gallu eu clywed drwy'r prosiect hwn. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld eu gwaith wrth iddo gael ei gynhyrchu. Dylwn ddatgan rhyw fath o fuddiant fel hanesydd dihangol fy hun. Bydd hwn yn adnodd gwych i haneswyr y dyfodol, a bydd yn sicrhau yr adroddir straeon pawb, nid dim ond y lleisiau mawr, fel y dywedodd David Melding.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Siân Gwenllian am ei sylwadau cadarnhaol iawn am waith ein pwyllgor. Mae'n iawn, wrth gwrs, i bwysleisio y bydd angen cefnogaeth barhaus gan y Llywodraeth ar ein sefydliadau ac i dynnu sylw at y ffaith eu bod yn fregus wrth wynebu'r argyfwng oherwydd y blynyddoedd o gyni. A bydd gennyf innau hefyd ddiddordeb mewn gweld y cynnydd o ran datblygu'r archif genedlaethol. Bydd angen i'r Llywodraeth barhau i gefnogi ein sefydliadau mawr ac yn wir, ein sefydliadau lleol llai. Bydd yn amser hir cyn y bydd y rhai a oedd yn bwrw iddi go iawn i allu gweithio'n fwy masnachol, bydd yn amser hir cyn y gallant ddychwelyd i'r lle hwnnw.
Mick Antoniw, wrth gwrs, oedd yr un a awgrymodd yr adroddiad byr ac i'r pwynt, felly mae'n iawn i'w gymeradwyo. Ac rwy'n credu ei fod wedi galluogi ein pwyllgor i ymateb i sefyllfaoedd sy'n newid mewn ffordd eithaf hyblyg ac ymatebol. Ac mae'r hyn a ddywed Mick am y cyfleoedd digideiddio, wrth gwrs, yn gwbl gywir. Mae'n iawn i wneud y pwyntiau am y posibilrwydd o gofnodion wedi'u digideiddio, yn ogystal â chofnodion go iawn, yn ein sefydliadau i gyfrannu at y cwricwlwm cenedlaethol ledled Cymru, a dof yn ôl at hynny mewn munud. Ond rwy'n credu ei fod yn iawn hefyd i dynnu sylw at yr arloesi sy'n digwydd mewn sefydliadau diwylliannol lleol, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod gemwaith crochendy Nantgarw ar fy rhestr cardiau Nadolig, rhag ofn bod unrhyw un yn gwrando. Mae'n hardd tu hwnt, ac am syniad clyfar, i ddefnyddio'r hyn sydd yn ei hanfod yn gynnyrch gwastraff nid yn unig i gynhyrchu incwm ar gyfer y crochendy, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ohono. Nid wyf wedi bod yno, mae'n rhaid i mi gyfaddef, ac rwy'n sicr yn mynd i fynd pan fydd hynny'n bosibl.
Rwy'n falch iawn, fel rwyf eisoes wedi dweud, fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein hargymhellion. Ac rydym yn ddiolchgar fel pwyllgor, ac mae'r sector yn ddiolchgar, am yr adnoddau ychwanegol sydd wedi'u darparu a'r cyllid ychwanegol yr wythnos hon. Gwn y bydd yn cydnabod y bydd angen cymorth pellach yn y tymor canolig, ac roeddwn yn falch o glywed yr hyn a ddywedodd am chwilio am gymorth trawslywodraethol.
Yma, hoffwn gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw am y cyfraniad addysgol posibl wrth i ni symud at y cwricwlwm newydd, lle bydd llawer mwy o amrywiaeth yn yr hyn a addysgir i'n pobl ifanc pan fyddant yn cael eu haddysgu am eu treftadaeth a'u diwylliant. Tybed a allai'r Dirprwy Weinidog, yn dilyn y ddadl heddiw, siarad â'r Gweinidog addysg a gweld a ellid symud rhai adnoddau i gefnogi'r llyfrgell genedlaethol efallai, a hefyd yr amgueddfa genedlaethol, mewn perthynas â'u hagenda ddigideiddio, oherwydd mae angen inni sicrhau bod yr adnoddau gwych hynny ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru ac yn wir, i bob un ohonom.
Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn i sôn am bwysigrwydd mynediad go iawn, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y dyddiau pan allwn ymweld â'n sefydliadau yn y ffordd yr arferem allu gwneud hynny. Yn y cyfamser, credaf y gallwn fod yn falch iawn o'r ffyrdd arloesol y maent wedi ymateb i gyfnod heriol iawn, ac rwy'n gobeithio bod y Dirprwy Weinidog yn deall bod ganddo gonsensws trawsbleidiol mewn perthynas ag amddiffyn ein sefydliadau—lleol a chenedlaethol—a sicrhau y byddant yno i ni pan ddown allan o hyn, ac i'n plant a'n hwyrion mewn cenedlaethau i ddod.