Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser unwaith eto gen i fel Gweinidog diwylliant i ymateb i'r drafodaeth yn y Siambr ynglŷn â'n sefydliadau cenedlaethol nodedig. Wrth wneud hynny, gaf i ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a hefyd pwysleisio, wrth gwrs, ein bod ni wedi ymateb yn ysgrifenedig ym mis Medi, ac wedi nodi ein bod ni fel Llywodraeth yn falch iawn o allu derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad, ac ein bod ni'n mynd ymlaen i'w gweithredu nhw? Fe wnaf i bwysleisio ar hynny yn fy ymateb cryno, gobeithio, i'r ddadl hon. Gaf i bwysleisio eto y gwnaf i ysgrifennu yn uniongyrchol at yr Aelodau am unrhyw bwyntiau na fyddaf i ddim wedi gallu eu hateb yn uniongyrchol?
Y neges bwysig sydd gen i, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gwrando ar y cais sydd wedi cael ei wneud yn gyson am gynyddu'r cyllid ar gyfer y sectorau rydym ni wedi eu trafod heddiw, er gwaethaf y cyd-destun cyllidol difrifol anodd rydym ni'n gweithio o'i fewn, ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, yn dilyn y galw am gyllid ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol, fe gyhoeddais i y byddai yna £10.7 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi sefydliadau ac unigolion. Yng ngoleuni'r ffaith bod yna geisiadau wedi cael eu gwneud i ni fel Llywodraeth nad oeddem ni'n gallu darparu cyllid iddyn nhw oherwydd bod nifer y ceisiadau yn llawer mwy enfawr na maint y cyllid, fe fydd yn rhaid inni geisio ffyrdd ar draws y Llywodraeth o weld os oes modd inni ddarparu rhyw gymaint yn rhagor o gyllid cyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, os oes peth ar gael, neu gynllunio ar gyfer hynny yn y blynyddoedd ariannol nesaf. Ond mae cronfa adferiad diwylliannol wedi cyrraedd £63.7 miliwn, ac, fel dywedais i, mae'r diddordeb yn y grantiau o bob math, gan gynnwys y grantiau treftadaeth 15 munud, wedi bod yn rhyfeddol, ac roeddwn i'n falch iawn o weld hynny.
Gaf i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi siarad am dderbyn mor bwysig ydy'r datblygiad digidol i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud i ymateb i sefyllfa COVID ac i ddatblygu ffordd o gyfathrebu ac o fod ar gael i'r cyhoedd drwy Gymru? Dwi'n gwerthfawrogi'n fawr y modd y mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi parhau i gynnig adnoddau drwy gydol yr argyfwng yma, megis e-lyfrau ac e-gylchgronau drwy'r llyfrgell ddigidol. Mae llwyfannau digidol yn sicr yn mynd i gael mwy o rôl i'w chwarae yn y dyfodol agos, ac mi fyddwn ni'n ceisio ffyrdd o sicrhau ein bod ni'n gallu cyllido o fewn y ffiniau cyllidol ac ariannol sydd gyda ni y datblygiad digidol, a bod hyn yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Ac mae gwella sgiliau digidol y boblogaeth yn gyffredinol yn rhan bwysig iawn o'r prosiect yma, fel bod pobl yn gallu manteisio ar yr arlwy sydd ar gael.
Ond does yna ddim byd tebyg, wrth gwrs, i ymweld â safleoedd hanesyddol mewn gwirionedd—nid yn rhithiol ond yn bersonol. Ac mae hyn wedi bod yn anodd iawn yn y cyfnod yma. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi cael y profiad, oherwydd lle rydw i'n byw yn Llandaf, a dwi'n gwybod am lawer o bobl eraill hefyd, gan ein bod ni'n cerdded mwy ac yn teithio llawer llai, ein bod ni yn gweld pethau newydd yn ein cymunedau lleol yn ystod y cyfnod yma ac yn ailddarganfod safleoedd hanesyddol lleol. Ac mae hynny wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth ni o'n cymunedau.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma, a dwi'n sicr nid hwn yw'r tro cyntaf ac nid hwn fydd y tro olaf y byddwn ni'n dod ynghyd fel Aelodau i ddangos cefnogaeth i'r sector ddiwylliannol. Ac mae'r feirniadaeth a'r anogaeth greadigol rydw i'n eu cael bob amser gan yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn y dadleuon yma yn rhywbeth sydd yn helpu i'm cadw innau ar y llwybr cul, fel petai. Diolch yn fawr.