Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru am gael cymorth ychwanegol i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n anghymesur gan COVID. Yr ardaloedd sydd â'r cyfraddau uchaf o achosion COVID yw Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Mae'r ffigurau ar gyfer Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr wedi bod yn uwch na ffigurau Lerpwl, sydd wedi elwa ar gymorth a blaenoriaeth ychwanegol ar gyfer technolegau newydd. Nid oes a wnelo hyn ddim â diwylliant y Cymoedd, fel y mae rhai wedi honni, a phopeth i'w wneud â thlodi a chyflogau isel, tai gwael, gorlawn, patrymau cyflogaeth sy'n golygu y gall llai o bobl weithio gartref, y system nawdd cymdeithasol gamweithredol nad yw'n cynorthwyo pobl ym mhob achos i hunanynysu, a dibyniaeth ar aelodau o'r teulu a ffrindiau ar gyfer gofal plant. Felly, cyn stereoteipio, byddai'n ddefnyddiol pe gallai pobl ddeall y ffeithiau perthnasol hyn.
Mae'n sicr yn newyddion da ei bod yn ymddangos bod y cyfnod atal byr wedi cael effaith gadarnhaol ar achosion. Dylai'r Llywodraeth fod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ynysu. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed, a rhaid inni hefyd, fel trethdalwyr, fod yn barod i gefnogi'r rheini sy'n peryglu popeth i'n helpu ni i gyd, sef y gweithwyr rheng flaen. Ac ar y nodyn hwnnw, un arwydd bach o gefnogaeth a fyddai i'w groesawu'n fawr fyddai pe bai'r Llywodraeth yn cytuno i dalu am angladdau pob gweithiwr rheng flaen sy'n marw o COVID. Nid yw'n iawn fod eu teuluoedd yn gorfod poeni am gyllid ar adeg o alar. Rhaid inni gydnabod hyn a'u cefnogi.
Mae'n bryd inni dderbyn nawr fod ysgolion yn chwarae rhan fwy yn y broses o drosglwyddo'r haint nag y credwyd i ddechrau. Mae modelu a data'r swyddfa ystadegau gwladol yn awgrymu bod plant yn fwy tebygol o fod yn achos cyntaf mewn cartref. Mae plant a phobl ifanc yn debygol o fod yn lledaenwyr asymptomatig. Mae angen rhoi llawer mwy o ystyriaeth i sut i reoli trosglwyddiad mewn ysgolion. Rhaid cael profion torfol rheolaidd i nodi achosion asymptomatig, a rhaid cael cymorth ychwanegol i gydnabod yr anawsterau gyda dysgu digidol sy'n wynebu teuluoedd sy'n ceisio cyfuno gofal plant ac addysgu eu plant â chyflogaeth amser llawn. I ddod yn ôl at brofi, ym mis Medi, addawodd Llywodraeth Cymru
'Mae pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn pecynnau profi. Hefyd o gymorth i ysgolion unigol lle bo’r angen fydd profi cyflym gan Wasanaeth Iechyd Cymru.'
Beth sydd wedi digwydd i hynny? Nid oes profion torfol o hyd i gadw ysgolion yn ddiogel ac ar agor. Mae athrawon yn cwyno wrthyf am y pwysau meddyliol sy'n deillio o gael ond ychydig o gyfathrebiadau gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynllun, neu'r diffyg cynllun, i ganslo'r arholiadau. Oni fyddai'n syniad gwych cael cynllun cyn i ni gael y cyhoeddiad? Ond mae athrawon hefyd yn teimlo'n anniogel. Dywedodd un yn ddiweddar, 'Rwy'n arswydo rhag mynd i'r gwaith, heb wybod a yw pobl yn asymptomatig. Mae'r straen yn fy ngwneud i'n gorfforol sâl'. Mae athrawon yn haeddu gwell na hyn.
At hynny, o gofio mai aelwydydd yw un o'r prif lwybrau trosglwyddo, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae tai gorlawn yn broblem, cred Plaid Cymru fod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth sefydlu cyfleusterau ynysu ar wahân i oedolion. Defnyddiwyd cyfleusterau o'r fath yn Ne Korea, Singapôr, Taiwan, yr Eidal, y Ffindir a llawer o wledydd eraill sydd â hanes gwell o lawer o atal y feirws. Byddai lleoedd o'r fath nid yn unig yn cynnig lle diogel i bobl ddod dros salwch ysgafn heb ei ledaenu i berthnasau hŷn neu fwy agored i niwed sy'n byw gyda hwy, byddai hefyd yn cynnig cyfle i fonitro pobl ac ymyrryd yn gynharach pan fyddant yn dirywio. Mae'r ymyrraeth gynnar hon mor bwysig, a bodolaeth y cyfleusterau hyn sy'n esbonio'n rhannol pam mai Singapôr sydd â'r gyfradd farwolaethau isaf yn y byd, ar 0.05 y cant.
Rydym angen llawer o ymyriadau eraill yn yr ardaloedd sydd â chyfradd uchel o achosion o COVID. Mae angen inni wneud llawer mwy i ddiogelu'r rheini sy'n agored iawn i niwed yn glinigol, ac mae angen inni wneud llawer mwy ar ochr ariannol hyn i gyd, i unigolion ac i fusnesau. Rhaid inni gael newid yn y dull o weithredu i gydnabod bod y pandemig a'r ymatebion i'r pandemig yn cael eu profi'n wahanol ac mewn ffordd wahanol sy'n adlewyrchu anghydraddoldebau presennol. Nid damwain yw bod cyfraddau uchel o COVID yn adlewyrchu cyfraddau amddifadedd uchel, a rhaid i ymateb y Llywodraeth roi gwell ystyriaeth i hynny.