8. Dadl Plaid Cymru: Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:07, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw a diolch hefyd, Lywydd, am dderbyn gwelliant 1, rwyf drwy hyn yn ei gynnig. Bydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw, nid am nad ydym yn cytuno â rhai o'r mesurau y maent yn eu cynnig, ond yn hytrach am ein bod yn anghytuno â ffocws eu cynnig. Mae Plaid Cymru yn cynnig llu o gamau gweithredu y maent am i Lywodraeth Cymru eu cymryd. Ein safbwynt ni yw bod llawer o broblemau ymdrin â'r pandemig wedi'u gwaethygu gan bedair Llywodraeth wahanol ledled y DU yn gwneud pethau gwahanol. Mae hyn wedi arwain at ddryswch enfawr. Mae gwir angen ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.

Ar hyn o bryd, mae gwahanol setiau o reolau ar draws ffiniau honedig, megis rhwng Cymru a Lloegr—ffiniau nad ydynt wedi bodoli mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers cannoedd o flynyddoedd. Wedyn, mae'r rheolau'n newid, ac maent yn wahanol eto mewn gwahanol rannau o'r DU. Nid rheolau go iawn yw rhai o'r rheolau, canllawiau'n unig ydynt mewn gwirionedd, sydd fel pe baent yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn esgus y gellir erlyn pobl am wneud rhywbeth pan na allant wneud hynny mewn gwirionedd. Y perygl gwirioneddol yw y bydd yr holl ddryswch yn arwain at ddirmyg tuag at y rheolau ymhlith cyfran fawr o'r cyhoedd. Mae arnaf ofn y gallai hyn fod yn anochel.

Gan droi at y gwelliannau, cytunwn â rhywfaint o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud, a rhywfaint o'r hyn y mae Llafur yn ei ddweud. Yn y bôn mae Llafur yn dweud wrthym eu bod wedi gwneud popeth yn iawn, tra bod y Ceidwadwyr yn galw am fwy o weithredu gan Fae Caerdydd. A gaf fi wneud y pwynt yn gyntaf fod y Ceidwadwyr yn sicr yn iawn ynglŷn ag un peth, sef bod y £5 biliwn y mae Cymru wedi'i gael gan Drysorlys y DU wedi sicrhau ein bod yn cadw ein pennau uwchben y dŵr, ac na fyddai gennym obaith o ddod drwy'r argyfwng hwn hebddo? Felly, y ffaith ei bod yn rhan o'r DU sydd wedi helpu Cymru yma.

A gaf fi hefyd nodi bod COVID-19 yn argyfwng nad yw'n effeithio ar Gymru'n unig? Mae'n effeithio ar y DU gyfan. Felly, does bosibl na fyddai'n llawer haws lliniaru problemau'r argyfwng hwn drwy gael un strategaeth ar waith ledled y DU. Mae'n hurt meddwl bod cael gwahanol setiau o wleidyddion mewn pedwar lle gwahanol yn helpu pethau, gyda phawb yn meddwl am eu hatebion a'u mesurau lliniaru eu hunain yn erbyn yr argyfwng erchyll hwn. Mae'n teimlo'n fwyaf hurt yn ardaloedd y ffin, lle gall trigolion lleol weld cymaint o nonsens yw bod siopau a thafarnau a bwytai'n cael agor mewn un lle, ond yn gorfod aros ar gau ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd. Yna, yr wythnos ganlynol, mae'r sefyllfa'n newid fel bod y gwrthwyneb yn wir. Nid dyma'r ffordd o ymdrin yn gynhwysfawr ag argyfwng rhyngwladol.

Efallai y bydd cefnogwyr datganoli'n dadlau mai gwahaniaethau o'r fath yw hanfod datganoli. Rwy'n meddwl weithiau tybed a yw Llywodraeth Cymru yn credu bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth gwahanol i Lywodraeth y DU er mwyn cyfiawnhau ei bodolaeth a dim mwy na hynny. Y broblem yw mai'r bobl fydd yn drysu yn sgil yr holl reolau gwahanol hyn, a hwy yw'r rhai a fydd yn dioddef yn ddiangen. Mae'r bobl wedi dod yn wystlon mewn gêm beryglus sy'n cael ei chwarae gan y datganolwyr ymroddedig ym Mae Caerdydd a Holyrood. Nid ydym wedi wynebu argyfwng ledled y DU tebyg i hwn ers dechrau datganoli 21 mlynedd yn ôl, felly mae'n ddiddorol iawn gweld sut y mae wedi datblygu.

Mae problemau datganoli wedi cynnwys Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, ond maent hefyd wedi cynnwys haenau eraill o Lywodraeth megis meiri a etholwyd yn uniongyrchol. Cawsom y llanast braidd yn annymunol pan wnaeth Andy Burnham, maer Llafur Manceinion fwyaf, ddatgan yn agored y byddai'n cytuno i gyfyngiadau Llywodraeth y DU cyn belled â bod ei faenoriaeth fach yn cael swm cyfatebol o iawndal ar ffurf mwy o arian gan y Llywodraeth. Daw'n amlwg o ymddygiad Burnham ein bod yn anelu tuag at fath o Lywodraeth sy'n gyfarwydd yn UDA, a elwir yn wleidyddiaeth 'casgen borc': 'Fe gewch ein pleidlais cyn belled â'n bod yn cael eich arian'. Yn anffodus, fodd bynnag, bydd mwy o arian ar gyfer Manceinion fwyaf yn golygu llai o arian ar gyfer lleoedd eraill, felly nid yw'r math hwn o ryfelgarwch gan unben pot jam lleol fel Andy Burnham yn gwneud llawer dros y DU gyfan. Cawsom enghraifft fwy hurt byth o anfanteision datganoli gyda'r gwrthdaro rhwng y Prif Weinidog a maer Middlesbrough, Andy Preston. Ym mis Hydref, anghytunodd y Maer Preston â'r Prif Weinidog ynghylch y cyfyngiadau a dywedodd:

Fel y mae pethau, rydym yn herio'r Llywodraeth.

Sut y gall maer tref fod mewn unrhyw sefyllfa i herio Llywodraeth y DU? Etholwyd Andy Preston yn faer Middlesbrough wedi iddo gael 17,000 o bleidleisiau. Enillodd y Prif Weinidog etholiad cyffredinol lle cafodd y Ceidwadwyr bron i 14 miliwn o bleidleisiau. Nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog y DU a maer Middlesbrough. Yn yr un modd, nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog Cymru a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 45 y cant o'r boblogaeth o 3 miliwn a phrif Weinidog y DU a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 67 y cant o'r boblogaeth o 65 miliwn.

Mae COVID-19 yn argyfwng cenedlaethol. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg nad yw'r DU, dan ddatganoli, yn gallu ymdopi ag argyfwng cenedlaethol mewn ffordd unedig. Weithiau, rwy'n meddwl tybed beth fyddai wedi digwydd yn ystod yr ail ryfel byd pe bai gennym ddatganoli. Dychmygwch: 'Mae Prif Weinidog Cymru yn arwain protest yn erbyn dod â charcharorion rhyfel Almaenig ac Eidalaidd i Gymru.'