Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Mae cymaint o realiti economaidd y Cymoedd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf wedi deillio o ddinistrio'r diwydiannau glo a'r diwydiannau cysylltiedig yn fwriadol gan Lywodraeth Thatcher. Roedd y brad hwnnw fel daeargryn ac mae wedi arwain at sawl ôl-gryniad. Nid yw ein hysbryd cymunedol erioed wedi pylu, ond mae ein lefelau diweithdra'n dal yn ystyfnig o uchel ac mae ein canlyniadau iechyd yn cario creithiau degawdau o danfuddsoddi. Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi talu'r pris am yr hyn a gymerodd Thatcher oddi wrthynt.
Yr ergyd ddiweddaraf yw'r effaith anghymesur o galed y mae COVID-19 yn ei chreu. Mae'r feirws wedi bod yn greulon ac yn ddi-baid mewn cymunedau ledled Cymru, ond mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol lle mae tai'n agos at ei gilydd a chyflogaeth mor ansicr fel na all rhai fforddio hunanynysu, mae'r feirws wedi gallu lledaenu'n frawychus o gyflym. Merthyr Tudful sydd â'r nifer uchaf o achosion y pen o'r boblogaeth yng Nghymru. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi cadarnhau y bydd profion torfol ar gael i drigolion yr ardal, p'un a oes ganddynt symptomau ai peidio. Mae'n hen bryd. Ond mae angen inni adeiladu ar hynny a darparu'r cymorth ychwanegol y mae ein cynnig yn galw amdano, fel bod pobl sy'n byw yn ein cymunedau yn cael gofal, nid diagnosis yn unig.
Pan osodwyd cyfyngiadau lleol ar ardaloedd yng Nghymru, Caerffili oedd y gyntaf, ac yna'r Rhondda, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chasnewydd, a Thorfaen yn ddiweddarach. Beth sydd gan yr ardaloedd hyn yn gyffredin? Wel, Lywydd, maent yn ardaloedd sydd â phoblogaethau hŷn, gyda strydoedd teras, a lle mae cysylltiadau teuluol yn dal yn gryf. Mae ein cysylltedd wedi cael effaith greulon, ac unwaith eto, rydym wedi dioddef oherwydd cynllunio gwael a degawdau o danfuddsoddi. Gwn fod cymunedau ledled Cymru wedi dioddef, ac yn amlwg, dylai'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer ardaloedd lle ceir llawer o achosion fod ar gael ym mhobman y mae ei angen. Ond ceir rhesymau sylfaenol pam y mae'r ardaloedd y cyfeiriais atynt wedi cael eu taro'n arbennig o galed, ac mae'n rhaid i ni unioni hynny.
Canfu adroddiad gan gell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ar anghydraddoldebau iechyd fod y pandemig wedi dwysáu anghydraddoldebau iechyd a oedd eisoes yn bodoli, a bod y materion sylfaenol hyn yn deillio o incwm isel, tai gwael a chyflogaeth ansicr. Sawl gwaith y mae'n rhaid inni wrando ar yr un canfyddiadau o adroddiad arall eto fyth cyn i rywun wrando a rhoi'r hyn y maent ei angen i'n cymunedau? Dyna pam y galwn am y gefnogaeth ehangach hon. Rydym am weld llety i bobl nad ydynt yn gallu hunanynysu gartref, cymorth ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy, a mesurau diogelwch i ysgolion, fel cyflwyno gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth. Mae angen buddsoddiad arnom i oresgyn y gagendor digidol i'w gwneud yn haws i bobl gadw mewn cysylltiad pan na allant weld ei gilydd wyneb yn wyneb. A byddwn yn ychwanegu at hynny yr angen am gymorth iechyd meddwl i helpu cymunedau gyda'r trawma cyfunol y maent yn ei ddioddef. Gellid gweithredu llawer o'n cynigion ledled Cymru, megis cynyddu'r grant hunanynysu i bobl ar incwm isel i £800 er mwyn darparu mwy o ofal plant a chymorth i bobl na allant weithio gartref. Byddai'r camau hyn yn helpu unigolion a theuluoedd ledled Cymru, ond mae eu hangen yn arbennig lle gwelwyd y lefel uchaf o achosion o'r feirws.
Mae ennyn hyder y cyhoedd yn hollbwysig, a dyna pam ein bod am gael ymgyrchoedd cyfathrebu cryfach. Pan osodwyd cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, ni roddwyd unrhyw ganllawiau swyddogol i breswylwyr ar yr hyn y dylent ei ddisgwyl am fwy na 24 awr, gan adael pobl yn teimlo'n ansicr ac yn bryderus. Rhaid inni ddysgu gwersi o'r cyfyngiadau hynny. Ond mae angen i ni ddeall mwy hefyd am y patrymau ymddygiad sy'n hwyluso lledaeniad y feirws. Byddai'n sicr yn fuddiol i'r Llywodraeth gomisiynu ymchwil yn y maes hwn, oherwydd pe tynnid sylw at rai o'r patrymau ymddygiad hyn, byddai cymunedau'n gwybod pa gamau i'w cymryd i ddiogelu eu hunain.
Lywydd, mae gobaith ar y gorwel, gyda chanlyniadau cychwynnol addawol yn achos dau frechlyn. Ond rydym yn wynebu misoedd tywyll ac anodd yn y gaeaf i ddod, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gynllunio mewn ffordd strategol sy'n targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Mae angen cymorth ar y cymunedau hynod hyn. Maent wedi bod yn galw am y cymorth hwnnw ers degawdau. O'r diwedd, efallai y gall y Llywodraeth hon fynd ati nawr i unioni'r anghydraddoldebau sydd wedi plagio ein strydoedd a mynd i'r afael â'r holl ôl-gryniadau sydd wedi adleisio dros y degawdau ers cau'r pyllau glo. Os nad nawr, pryd?