Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Fe gofiwch fod 'Cymraeg 2050' yn cynnwys dau brif nod, sef cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu'r defnydd a wneir o'r iaith hefyd. Mae'r adroddiad hwn, felly, yn dangos y gwaith sydd wedi'i wneud mewn ymateb i'r nodau hyn yng nghalon ein cymunedau, gan ein partneriaid grant, a gennym ni fel Llywodraeth. Fe welwch fod yr adroddiad yn dangos ein gwaith o'r blynyddoedd cynnar, trwy ddarpariaeth addysg statudol, i addysg ôl-orfodol a Chymraeg i oedolion. Mae hefyd yn sôn am brosiectau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau.
Mae'r adroddiad yn un amrywiol iawn am fod y gwaith yn perthyn i bob un o feysydd gwaith y Llywodraeth, gan adlewyrchu pwysigrwydd prif ffrydio a gwreiddio 'Cymraeg 2050' yn eang. Mae'r adroddiad hwn yn arddangos tystiolaeth dda iawn o hynny.
Does dim amser gyda fi i fynd drwy bopeth heddiw, felly dwi am sôn am rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn cyn troi at beth sydd wedi digwydd ers hynny yn sgil COVID-19. Un o uchafbwyntiau'r llynedd oedd cymryd rhan ym Mlwyddyn Ryngwladol UNESCO ar gyfer Ieithoedd Brodorol. Roedd yn gyfle gwych i ni godi proffeil Cymru yn rhyngwladol, fel gwlad ddwyieithog a gwlad sy'n arwain yn y maes adfywio ieithyddol.
Yn ystod yn flwyddyn adrodd, mi wnes i gyhoeddi ein bwriad i sefydlu Prosiect 2050. Uned newydd sbon yw hon sy'n cydlynu ein gwaith o gynllunio ein llwybr tuag at yr 1 filiwn. Bydd hefyd yn creu mentrau newydd i ddyblu defnydd o'r iaith ac yn cefnogi adrannau polisi ar draws y Llywodraeth i weithredu 'Cymraeg 2050'. Bydd yn gweithio gydag amrywiol bartneriaid ledled Cymru a thu hwnt, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith arloesol y bydd y prosiect yma yn ei gyflawni.
Mae annog teuluoedd i ddewis defnyddio'r Gymraeg yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud ar ein taith tua'r 1 filiwn, felly roeddwn i'n falch dros ben o lansio ymgynghoriad ar y polisi drafft cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Byddwn yn cyhoeddi'r polisi terfynol yma yn y Senedd ar 15 Rhagfyr.
Hefyd, rydym wedi lansio'r gwasanaeth Helo Blod, sef gwasanaeth cymorth a chyfieithu sydd ar gael ar-lein a dros y ffôn i fusnesau bach a'r trydydd sector. Rhaid cofio hefyd am y gwaith bara menyn fel cynyddu nifer y cylchoedd meithrin, cynyddu'r lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r niferoedd sy'n eu mynychu, cynnig darpariaeth i hwyrddyfodiaid, cryfhau'r gweithlu addysg, cynnal defnydd iaith yn y sector ôl-16 a datblygu adnoddau addysgol o safon, hefyd, cynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu, a chynnig dewis da o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn gweithleoedd, cefnogi partneriaid grant, rhaglen Arfor, rôl y cyfryngau, treftadaeth, diwylliant, twristiaeth, seilwaith ieithyddol a manteisio i'r eithaf ar dechnoleg.
Fe welwch chi fod y data yn yr adroddiad yn dangos ein bod ni'n dal i wynebu heriau mewn rhai meysydd, er enghraifft, recriwtio athrawon a sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl 16 oed. Ond, rŷn ni'n gweithio'n galed ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid ac yn parhau i gadw llygad ar y data er mwyn addasu ein cynlluniau os bydd gofyn.
Mae'n bwysig cofio mai ciplun ar y cyfnod penodol a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth eleni sydd yn yr adroddiad hwn a rhaid ystyried, wrth gwrs, fod y byd wedi newid yn llwyr ers hynny. Mae'r Gymraeg, fel pob un o feysydd polisi eraill y Llywodraeth, wedi wynebu heriau mawr yn sgil COVID-19, ond gyda phob her, daw cyfleoedd cyffrous. Mae arloesedd, agwedd benderfynol a chreadigrwydd ein partneriaid wedi creu argraff fawr arnaf i. Roedd hi'n bleser gwylio Eisteddfod T, Eisteddfod Amgen a chlywed am waith gwirfoddol gwych y ffermwyr ifanc a Merched y Wawr, yn ogystal â gweld pob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein gan y mentrau iaith. Mae mwy o ddysgwyr wedi manteisio ar gyrsiau blasu ar-lein y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers mis Mawrth eleni na chyfanswm dysgwyr y tair blynedd flaenorol gyda'i gilydd. Ac mae'r mwyafrif o'n partneriaid wedi llwyddo i barhau i weithredu amcanion 'Cymraeg 2050' yn ystod cyfnod mor anodd. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion aruthrol.
Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymateb i'r pandemig trwy gefnogi partneriaid, gan geisio rhagweld sefyllfaoedd ac ymateb iddyn nhw, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Er enghraifft, mae ymgyrch Llond Haf o Gymraeg wedi ei lansio i gefnogi rhieni plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni hefyd wedi cynnal awdit o ddefnydd iaith yn ein cymunedau, er mwyn deall effaith COVID ac adnabod cyfleoedd newydd i bobl ddefnyddio eu Cymraeg. Bellach, mae pecyn Cysgliad ar gael am ddim i ysgolion a sefydliadau bach, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio'r Gymraeg.
Rŷn ni hefyd wedi bod yn ystyried beth fydd effaith COVID-19 a hefyd Brexit ar y canlynol: defnydd o'r Gymraeg yn y gweithleoedd; yr economi wledig, gan gynnwys y sector amaeth; a sefyllfa ail gartrefi a thai fforddiadwy. Bydd ein hadroddiad blwyddyn nesaf yn cynnwys mwy o fanylion am y materion hyn ac unrhyw ganfyddiadau am effaith y pandemig ar y Gymraeg, a bydd hyn oll yn cael ei ystyried hefyd wrth inni baratoi ar gyfer rhaglen waith nesaf 'Cymraeg 2050' ar gyfer y Llywodraeth nesaf.
Dwi am droi nawr at adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2019-20, sef blwyddyn lawn gyntaf Aled Roberts fel comisiynydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto am ei waith. Dwi eisiau nodi fy mod i'n gwerthfawrogi parodrwydd y comisiynydd a'i staff i addasu'r ffordd maen nhw wedi gweithio, yn arbennig wrth ystyried goblygiadau COVID-19 ar gyrff sy'n darparu gwasanaethau Cymraeg.
Cychwynnodd y comisiynydd ar ei waith drwy gwrdd â thrawstoriad o bobl mewn cymunedau a sefydliadau ar draws Cymru, a hynny er mwyn iddo gael deall sefyllfa'r Gymraeg ar hyd a lled y wlad yn well. Bu'r daith yn sail i weledigaeth y comisiynydd ar gyfer y ffordd ymlaen. Dwi'n falch bod Aled yn rhannu'n gweledigaeth ni fel Llywodraeth Cymru, sef bod rheoleiddio a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn mynd law yn llaw. Mae angen gwneud y ddau beth er mwyn llwyddo gyda'n gilydd i weithredu 'Cymraeg 2050'.
Mae'r adroddiad blynyddol yn cyfeirio at waith sydd wedi'i wneud yn unol â blaenoriaethau'r comisiynydd, sef parhau i reoleiddio'n effeithiol, tra hefyd yn cydweithio â phartneriaid i hybu'r Gymraeg. Mae'r comisiynydd yn parhau i weithredu safonau'r Gymraeg. Daeth y safonau i'r sector iechyd i rym yn ystod y cyfnod adrodd, ac mae'r comisiynydd hefyd wedi bod yn gweithio gyda chyrff i'w cefnogi i roi safonau ar waith. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r comisiynydd am ei barodrwydd i gydweithio gyda fy swyddogion i i adolygu'r broses o wneud safonau yn dilyn argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Dwi'n awyddus i gydweithio i wthio cyrff yn eu blaenau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Rŷn ni hefyd am greu sefyllfa lle mae hawliau siaradwyr Cymraeg yn glir er mwyn cynyddu'r defnydd o wasanaeth. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl y comisiynydd wrth sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gwaith y Llywodraeth gyfan. Eleni, mwy nag erioed o'r blaen, mae'r her allanol yn hollbwysig wrth i ni ystyried effeithiau hirdymor COVID-19 a'r ansicrwydd i'r Gymraeg yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
A dyna ni. Dau adroddiad cynhwysfawr iawn yn cyflwyno llawer o wybodaeth am y gwaith hollbwysig sy'n cael ei wneud o dan faner 'Cymraeg 2050'. Diolch yn fawr.