Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Diolch, Weinidog. A gaf i ddechrau trwy fynegi fy siom ein bod ni'n trafod y ddau adroddiad hyn gyda'i gilydd? Pum munud i graffu ar y ddau. Does dim digon o amser i graffu ar eich llwyddiant i gymharu â'ch gweithgaredd. Does dim amser i fynd drwy'r byd gwaith, y gymuned, y maes addysg, ac yn y blaen, a does dim digon o amser i edrych ar swyddogaethau a chyfrifon y comisiynydd, i archwilio a oes ganddo ddigon o adnoddau, i archwilio ymhellach pam ei fod wedi gorfod gwario mwy ar ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol na'r disgwyl. Ac mae yn bwysig, achos i mi, mae hyn yn awgrymu bod y broses gwynion yn dal yn rhy gymhleth ar gyfer rhai cwynion. Mae llawer ohonynt heb eu profi, fel y gwelwn. Ac mae'n lleihau'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith arall y mae'n rhaid i'r comisiynydd ei wneud, sef helpu i greu mwy o siaradwyr Cymraeg a mwy o ddefnydd o'r Gymraeg.
Gaf i groesawu'r cod ymarfer a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, sy'n helpu sefydliadau i ddeall sut i gydymffurfio â safonau? Dylai, wrth gwrs, fod mwy o safonau i gydymffurfio â nhw erbyn hyn. Dywedasom yr un peth llynedd, ac roedd diffyg brwdfrydedd dros safonau yn amlwg iawn cyn COVID. Ni allwn feio'r feirws am hyn. Ond mae gen i, hefyd, fwy o frwdfrydedd dros weld gwelliant ar y gwaith ar hyrwyddo a pherswadio a llwybrau eraill i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr. Gan fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddod â mwy o gyfrifoldeb am hyn yn ôl yn fewnol, gawn ni weld faint o amser bydd gan y Gweinidog i gyflawni ar hyn, o ystyried ei chyfrifoldebau heriol a phwysig newydd.
Rwy'n awyddus iawn i weld beth sy'n digwydd i ganfyddiadau arolwg y comisiynydd o awdurdodau cynllunio, achos, mae'n debyg i fi, bod gorfodaeth y sylw dyledus ar effaith y Gymraeg yn cael ei ddehongli fel blwch ticio yn hytrach na meddwl am gyfleoedd cytundebau—section 106, er enghraifft—fel ffordd o gynyddu'r galw am addysg Gymraeg. Ac rwy'n falch iawn o weld y comisiynydd yn cyflwyno'r achos dros god ymarfer o dan y cwricwlwm newydd. Ni fydd prif-ffrydio'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn hawdd, ond dyma'r ffordd orau ymlaen, yn fy marn i, i greu cenedlaethau mwy dwyieithog. Mae'n llawer gwell na chynigion lletchwith ar drosi ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, pan nad oes mynediad i ddewis arall am ddegau o filltiroedd. Nid yw rhannu cymunedau a chwarae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn dda i'r iaith. Ar ben hynny, rydym yn dal i gael trafferth recriwtio athrawon, fel y dywedoch, yn enwedig ar y lefel uwchradd. Felly, anogaf Llywodraeth Cymru i ystyried cod ymarfer continwwm o ddifri, a chadw ffocws ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, i'w gwneud hi'n hawdd i ddewis Cymraeg, ac rwy'n golygu dewis er hwylustod a gyda hyder.
Efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, Weinidog, a yw COVID wedi torri ar draws eich cynlluniau i gael 40 o feithrinfeydd newydd erbyn 2021, a sut y byddwch chi'n dal lan. A allwch hefyd ddweud a yw'r 800 o blant ychwanegol mewn meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg wedi eu gwasgaru ledled Cymru, neu ydyn nhw mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith neu Gymraeg eu hiaith yn bennaf? Neu dim ond yn adlewyrchiad o'r cynnydd yn niferoedd y boblogaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn yw hyn? A gofynnaf yr un peth am y cynnydd yng nghanran y plant sy'n symud i ysgolion cynradd Cymraeg. A allaf i ofyn hefyd: pam niferoedd ar gyfer un, a chanrannau ar gyfer y llall? Dydy hynny ddim yn dryloyw o gwbl. Ac er fy mod yn credu bod rhaglen Camau yn syniad gwych, a allwch ddweud a oes gan bob lleoliad Dechrau'n Deg erbyn hyn un person, o leiaf, â sgiliau trosglwyddo'r iaith Gymraeg ar lefel briodol?
Jest i ddod i ben, mae yna, fel y dywedais i, ormod o gwestiynau i mi eu cyfro heddiw, ond rwyf eisiau troi at y ffigurau TGAU. Mae'n gynnydd cymedrol, ac rwy'n croesawu unrhyw gynnydd, fel rydych chi'n gwybod, ond efallai y byddai gweld graddau disgyblion wedi ein helpu i ddeall rhywbeth arall—a ddylid eu croesawu ymhellach, neu a oes unrhyw broblem gyda chyrhaeddiad yn y pwnc gorfodol hwn. Ac, ie, dylai fod yn orfodol, achos mae dal angen inni ddangos i nifer o bobl, sy'n crebachu, fod hwn yn gymhwyster gwerthfawr. Mae'n hanfodol, hefyd, i wrthdroi'r cwymp yn y galw am safon uwch os oes unrhyw obaith o gael yr athrawon sydd eu hangen arnom. Diolch.