Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Dwi'n meddwl bod y ffaith bod gen i swydd newydd, mewn ffordd, yn fy helpu i roi tamaid bach o oleuni ar y maes yna o ran iechyd meddwl a’r Gymraeg, ac eisoes dwi wedi mynd ati i ofyn am waith i gael ei wneud ar y mater yma. Felly, dwi ddim yn gweld eu bod nhw’n cystadlu; dwi’n meddwl bod yna le i ni gydweithio ar y pynciau yna.
O ran prif-ffrydio’r Gymraeg,i fod yn glir, does dim diddordeb gen i i weld tensiwn rhwng yr ieithoedd sydd yn ein cymunedau ni. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithredu a’n bod ni’n deall bod yna gyfrifoldeb nid jest ar y bobl sy’n mynd i ysgolion Cymraeg ond ar y rheini sydd ddim yn mynd i ysgolion Cymraeg—bod cyfrifoldeb arnyn nhw hefyd i ddysgu digon o iaith y wlad hefyd. Ac, wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud mwy o waith ar hynny, ac rŷn ni eisoes wedi bod yn siarad â llefydd fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i weld sut maen nhw’n gallu, efallai, helpu, gyda’u profiad newydd nhw o weithio ar-lein.
O ran meithrinfeydd, rŷn ni’n dal ar darged i gyrraedd y 40 o feithrinfeydd roedden ni wedi gobeithio eu rhoi mewn lle, a, jest i fod yn glir, rŷn ni wedi gofyn iddyn nhw roi’r ffocws ar yr ardaloedd lle nad oes yn draddodiadol gyfleusterau yn yr ardal. Mae’r Gymraeg yn gymhwyster a hefyd o werth o ran beth mae’n rhaid inni gael pobl i’w ddeall—ei bod hi’n gymhwyster ar ben yn ffordd o gyfathrebu. Wrth gwrs, rŷn ni wedi ceisio rhoi arian ar y bwrdd—mae £150,000 wedi cael ei roi ar y bwrdd—i geisio annog mwy o bobl i ymgymryd â lefel A ac, fel roedd Gareth Bennett yn nodi, mae angen mwy o waith arnom ni yn yr ardal yna. Rŷn ni’n gwneud ein gorau yn fan hyn. Mae lot o ysgogiadau gyda ni mewn lle, ac, felly, os oes syniadau eraill gan bobl, rŷn ni’n fwy na hapus i wrando arnyn nhw. Ond yn arbennig pan fo’n dod i geisio cael mwy o athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae o leiaf 10 o fesurau mewn lle sydd eisoes yn ceisio cael mwy o bobl i ymgymryd â’r gwaith yma. Dwi’n gwybod bod hwn yn rhywbeth mae Siân Gwenllian â diddordeb mawr ynddo.
Dwi ddim yn derbyn nad ydym wedi symud pethau ymlaen yn ystod y cyfnod yna. Mae pennaeth Prosiect 2050 nawr mewn lle. Roedd y gwaith oedd yn cael ei wneud yn waith sydd yn cario ymlaen nawr, oedd yn dechrau cyn i’r penodiad yna ddigwydd. Felly, doedd e ddim fel petai'r gwaith ddim yn digwydd. Er enghraifft, ar drosglwyddo Cymraeg yn y teulu, roedd lot o waith yn cael ei wneud ar hwnna. Roedd lot o waith yn cael ei wneud ar y Gymraeg a thechnoleg. Felly, roedd y pethau yna sydd mor bwysig, dwi’n meddwl, i sicrhau bod y mesurau mewn lle i sicrhau bod yna gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith, eisoes wedi symud ymlaen cyn bod y pennaeth yna wedi cael ei benodi.
O ran Cymraeg Gwaith, dwi’n meddwl bod gwaith aruthrol wedi cael ei wneud yn fan hyn, ond, wrth gwrs, roedd lot o hwnna wedi dod i ben gyda COVID. Ond mae’n bwysig ein bod ni’n ailgydio yn hynny unwaith fod cyfle, fel bod cyfle i bobl fynd mewn i’r gweithle eto i sicrhau bod mwy yn ymgymryd â dysgu’r iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle.
Rŷch chi’n dweud nad ydym wedi rhoi cefnogaeth i’r Urdd. My goodness, rŷn ni wedi sefyll ar bwys yr Urdd mewn ffordd aruthrol, dwi’n meddwl. Wrth gwrs mae angen gwneud mwy i gefnogi’r Urdd, ond rŷn ni’n gwneud ein gorau glas gyda nhw, o bob mudiad, achos rŷn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith aruthrol a phwysig maen nhw’n ei wneud o ran cynnal y Gymraeg gyda’n hieuenctid ni. Dwi wedi cadw mewn cysylltiad agos gyda’r comisiynydd a’r Gweinidog Addysg i sicrhau bod y cwricwlwm yn y lle iawn o ran y Gymraeg, ac, wrth gwrs, mae’n drueni nad oedd Siân wedi clywed beth wnes i gyfeirio ati ynglŷn â’r gwaith rŷn ni’n ei wneud gydag ail gartrefi.
Dwi’n falch o glywed bod Gareth Bennett, fel rhan o’r Abolish the Welsh Assembly Party, yn cefnogi’r syniad o gefnogi’r Gymraeg. Beth rŷn ni’n ceisio ei wneud—jest i edrych ar ychydig o bwyntiau a wnaeth e—o ran defnyddio’r iaith ar ôl i bobl gadael ysgol, mae'n rhaid inni roi'r cyfleoedd i wneud hynny, a dyna pam mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei sefydlu. Dyna pam mae mwy o brentisiaethau mewn lle trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna pam mae modiwlau nawr o ran cyrsiau addysg bellach yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg i’r rheini sydd wedi mynychu ysgolion Cymraeg.
Jest i orffen, felly, mae’n debyg y bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn wahanol iawn o ystyried faint mae'r byd o'n cwmpas ni wedi newid. Ac er bod y cyd-destun i'n gwaith ni wedi newid yn ddramatig ers lansio 'Cymraeg 2050', mae'n blaenoriaethau ni wedi aros yn yr un lle. Ein bwriad ni o hyd yw cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu defnydd yr iaith a gwella'r seilwaith, a dyna pam dwi wedi nodi rhai o'r pethau hynny. Mae lot o waith eisoes wedi ei wneud ac mae sylfaen gref yno i sicrhau bod y Llywodraeth nesaf yn parhau â'r weledigaeth yna o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Diolch.