Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr, a diolch am yr ymatebion hynny. I ddechrau gyda Suzy, wrth gwrs, ers i ni benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda Deddf yr iaith Gymraeg, mi roeddem ni wedi dechrau symud ymlaen gyda rhai safonau newydd, ond, wrth gwrs, roedd COVID, wedyn, wedi torri ar draws. Ond, rŷn ni yn gobeithio cael o leiaf un grŵp newydd o safonau i mewn cyn diwedd y sesiwn yma.