Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Lywydd, diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna. Mae etholaeth Dwyrain Casnewydd, fel llawer o ardaloedd yng Nghymru, wedi gweld nifer fawr o achosion o haint coronafeirws. Cyflwynwyd cyfnod atal byr cenedlaethol i leihau cyfraddau digwyddedd ledled Cymru. Mae rhai o'r enillion a gyflawnwyd eisoes yn cael eu gwrthdroi yn y cyfnod ar ôl y cyfnod atal byr.