Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:52, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd ddoe bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau COVID llymach yn y cyfnod cyn y Nadolig. A allwch chi gadarnhau pa gyfyngiadau yr ydych chi'n eu hystyried nawr, o gofio eich bod chi eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau ar sail awdurdodau lleol, cyfyngiadau o ran cyfyngiadau symud hyperleol, a chyfyngiadau cenedlaethol erbyn hyn?