1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn y flwyddyn anoddaf mewn cof byw i gynifer ohonom ni, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at flwyddyn newydd hapusach a, chyn hynny, at dreulio amser gyda ffrindiau a theulu dros y Nadolig. Mae dull tosturiol ond cyfrifol o lacio cyfyngiadau ar sail gyfyngedig dros gyfnod y gwyliau yn ymddangos yn synhwyrol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol hefyd nad ydym ni'n colli'r enillion y gweithiwyd mor galed i'w sicrhau dros y misoedd diwethaf dim ond er mwyn cael pedwar neu bum diwrnod, ac felly mae'n rhaid i bobl wybod bod risg yn gysylltiedig ag unrhyw lacio hefyd, yn enwedig yng nghyd-destun y gwrthdroi, o bosibl, yr oeddech chi'n cyfeirio ato yn gynharach. A allwch chi ddweud pa fodelu gwyddonol sy'n cael ei ddefnyddio i lywio'r trafodaethau ar ddull pedair gwlad o ymdrin â chyfnod y Nadolig, a beth yw eich dealltwriaeth o effaith debygol unrhyw lacio cyfyngiadau? O gofio y bydd ymddygiad unigolion yn ffactor hollbwysig o ran penderfynu ar yr hyn fydd yn dilyn gwyliau'r Nadolig, a wnaiff Llywodraeth Cymru lansio ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd, fel yr ymgyrchoedd grymus yr ydym ni'n eu gweld bob blwyddyn ar yfed a gyrru dros gyfnod yr ŵyl, gan annog pobl i ddilyn y canllawiau fel y gallwn ni i gyd fwynhau gwell 2021?
Wel, Llywydd, diolchaf i Adam Price am hynna, ac rwy'n credu ei fod wedi cyfleu yn dda iawn, er bod cael cyfle, i lawer o bobl, i gyfarfod â theulu a ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl yn bwysig iawn, bod yn rhaid i ni gydbwyso cynifer o bethau wrth ganiatáu i hynny ddigwydd. Nawr, bydd cyfarfod COBRA yn ddiweddarach y prynhawn yma, sef y cyfarfod diweddaraf rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig, i lunio dull cyffredin o ymdrin â'r Nadolig, ac rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n gallu gwneud cynnydd pellach ar hynny y prynhawn yma. Mae'r modelu sydd ar gael i ni yno yn dod drwy SAGE.
Pan gawsom ni gyfarfod ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni ofyn yn benodol i'r pedwar prif swyddog meddygol gyfarfod rhwng y cyfarfod dydd Sadwrn a'r cyfarfod yn ddiweddarach heddiw i roi cyngor pellach i ni ar nifer o agweddau ar lacio posibl dros y Nadolig a drafodwyd gennym ni yn y cyfarfod ddydd Sadwrn, a bydd hynny ar gael i ni y prynhawn yma. Ond, rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Adam Price y bydd yn rhaid i bobl ddefnyddio pa bynnag ryddid ychwanegol y gallwn ni ei gynnig dros gyfnod y Nadolig yn gyfrifol. Nid yw'r ffaith bod llacio yn bosibl yn gyfarwyddyd i fynd i dreulio'r holl gyfnod hwnnw yn gwneud pethau peryglus, a gofynnodd arweinydd Plaid Cymru beth fyddai effaith unrhyw lacio dros y Nadolig, ac er nad oes gen i ateb mesuradwy i hynny ar hyn o bryd, mae'r ateb cyffredinol yn eglur iawn: bydd yn arwain at fwy o ledaenu coronafeirws, oherwydd mae coronafeirws yn ffynnu pan fydd pobl yn dod at ei gilydd, a'r mwyaf o bobl sy'n dod at ei gilydd, y mwyaf o coronafeirws fydd yno. Dyna pam, Llywydd, yr wyf i wedi bod yn dadlau yn y cyfarfodydd yr ydym ni wedi eu cael dros bwyslais nid yn unig ar nifer fach o ddyddiau adeg y Nadolig ei hun, ond ar benderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud yn y cyfnod cyn y Nadolig, a sut y byddwn ni'n ymdrin â'r canlyniadau, ac i geisio gwneud hynny ar sail gyffredin ar y cyfan hefyd.
O ran yr ymgyrch wybodaeth—y cwestiwn olaf—mae gan Lywodraeth Cymru ymgyrch wybodaeth wedi'i chynllunio. Bydd yn gwneud llawer o'r pethau y soniodd Adam Price amdanyn nhw o ran ceisio gwneud pobl yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau ymddygiad pobl, a'r ffyrdd y gallwn ni i gyd, drwy wneud y pethau iawn, wneud cyfraniad at gael Nadolig y gallwn ni ei fwynhau heb gymryd y risgiau gormodol hynny.
Ddydd Sadwrn, Merthyr Tudful oedd y sir gyntaf yng Nghymru i dreialu profion torfol, ond ar yr un diwrnod, roedd yr achosion COVID fesul 100,000 o'r boblogaeth mewn cyfnod o saith diwrnod yn uwch ym Mlaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn tynnu sylw at anghysondeb ar hyn o bryd yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag ardaloedd lle ceir trosglwyddiad uchel o COVID. Pan wnaethom ni gefnogi'r cyfnod atal byr, roedd hynny ar yr amod y byddai'r system brofi ac olrhain yn cael ei huwchraddio, ei chyflymu a'i hehangu i gynnwys profi unigolion asymptomatig.
Mae gwledydd annibynnol bach, fel yr ydym ni wedi sôn yn gynharach, fel Slofacia, wedi llwyddo i gyflwyno rhaglen profion torfol genedlaethol. Mae Tsieina wedi bod yn cynnal profion torfol mewn tair dinas dros y penwythnos. Hoffem ni ei weld yn cael ei gyflwyno mewn mwy o ardaloedd targed, wedi'i ategu gan daliad ynysu uwch o £800. Pryd, Prif Weinidog, fyddwn ni'n gallu troi cynllun arbrofol Merthyr yn rhaglen ehangach o brofion cyflym torfol yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig atgoffa'r Aelodau, pan nodwyd Merthyr fel y man cyntaf lle byddem ni'n cynnal arbrawf profi torfol yng Nghymru, dyna oedd yr ardal â'r mwyaf o achosion o coronafeirws o bell ffordd—ac roedd hynny yn wir am fifer o ddyddiau. Mae eraill wedi ei goddiweddyd yn y cyfamser ond, wrth gynllunio, mae'n rhaid i chi ddechrau gyda'r ffigurau sydd o'ch blaen chi ar yr adeg honno.
Gwn y bydd cwestiwn yn ddiweddarach y prynhawn yma, Llywydd, ond dim ond i ddweud bod dyddiau cynnar profion torfol ym Merthyr wedi mynd yn dda iawn a'u bod nhw'n deyrnged i weithredoedd sefydliadau lleol, ond hefyd dinasyddion, yn yr ardal honno. Byddwn ni'n dysgu llawer o'i wneud; gallwn fod yn siŵr o hynny. Rydym ni eisoes yn dysgu pethau o'r dyddiau cynnar iawn hyn. Ceir cynigion eisoes ar gyfer ehangu profion torfol i ardaloedd eraill. Bydd dewisiadau i'w gwneud, Llywydd, ac ni fyddan nhw'n ddewisiadau hawdd ychwaith.
Cyfeiriais yn fy ateb i'r cwestiwn cyntaf at y ffaith y gallem ni efallai ddefnyddio profion llif ochrol i gynorthwyo i atal plant rhag cael cais i hunanynysu yn yr ysgol. Buom yn siarad, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf ar lawr y Senedd am ddefnyddio dyfeisiau llif ochrol i ganiatáu ymweliadau â chartrefi gofal, a gallem ni ddefnyddio dyfeisiau llif ochrol i gael mwy o gyfle i gynnal profion torfol yng Nghymru.
Ond nifer cyfyngedig sydd gennym ohonynt. Rydym ni'n disgwyl y bydd gennym ni tua 90,000 ohonyn nhw y dydd ar gael i ni yma yng Nghymru, ond bydden nhw'n cael eu defnyddio yn fuan iawn o nifer o'r dibenion yr wyf i newydd eu hamlinellu. Felly, bydd yn fater o gydbwyso. Bydd yn fater o geisio blaenoriaethu lle'r ydym ni'n eu defnyddio. Bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer profion torfol pellach, ond bydd dibenion pwysig eraill y gellir defnyddio'r cyflenwad cyfyngedig hwnnw o brofion o'r fath ar eu cyfer yng Nghymru hefyd.
Gan droi at faterion sy'n gysylltiedig â brechlynnau, lle'r ydym ni wedi cael rhagor o newyddion da yn ddiweddar, dim ond 10 diwrnod ar ôl i ni glywed y darn cyntaf o newyddion calonogol o ran y ffaith fod brechlyn Pfizer a BioNTech 90 y cant yn effeithiol mewn treialon, cyflwynodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth yr Alban gynllun cyflwyno cynhwysfawr i Senedd Holyrood. Yn y datganiad hwnnw, cadarnhawyd y byddai'r brechiadau cyntaf ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal hŷn, a'r rhai dros 80 oed sy'n byw yn y gymuned. Y cam nesaf wedyn fyddai ar gyfer y rhai dros 65 oed a'r rhai o dan 65 oed sydd mewn perygl clinigol ychwanegol, ac yna'r boblogaeth ehangach dros 18 oed.
Maen nhw'n gobeithio cael 320,000 dos o'r brechlyn hwnnw i'w defnyddio yn ystod pythefnos cyntaf mis Rhagfyr, yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol, gydag uchelgais i frechu 1 filiwn o ddinasyddion erbyn diwedd mis Ionawr. Dywedodd yr Ysgrifennydd iechyd yno bod yr Alban yn barod ar gyfer mis Rhagfyr. Dim ond wythnos i ffwrdd yw mis Rhagfyr. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod Cymru hefyd yn barod, ac os felly, pryd gallwn ni ddisgwyl gweld manylion rhaglen cyflwyno brechiadau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys llinell amser o bwy fydd yn cael eu brechu a phryd?
Llywydd, o ran pwy fydd yn cael eu brechu a phryd, rydym ni eisoes wedi dweud y byddwn ni'n dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio o ran blaenoriaethu. Mae'r cyngor hwnnw yn dal i gael ei fireinio ar sail y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o ba rai o'r brechlynnau sy'n cael eu hadrodd sydd fwyaf addas ar gyfer gwahanol grwpiau o fewn y boblogaeth. Mae gennym ni grŵp cynllunio gweithgar iawn a ddechreuodd weithio yn ôl ym mis Mai eleni ac mae wedi cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol yr argyfwng i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa dda i ddefnyddio'r brechlynnau wrth iddyn nhw ddod ar gael i ni yng Nghymru. Rydym ni wedi ceisio, yn ystod yr holl argyfwng, Llywydd, dilyn y rhagosodiad sylfaenol hwn yng Nghymru, ein bod ni'n cynllunio yn gyntaf a phan fydd gennym ni gynllun yr ydym ni'n credu sy'n ddefnyddiol ac yn ymarferol, yna rydym ni'n ei gyhoeddi i bobl ei weld, yn hytrach na chyfres o uchelgeisiau nad oes modd eu cyflawni wedyn gan fod yr uchelgeisiau wedi eu seilio yn anochel ar wybodaeth nad yw mor ddibynadwy ag y mae ei hangen arnoch ar gyfer cynllun pwrpasol y gallwch chi ei gyflawni yn ymarferol.
Yn y pen draw, rwy'n amau'n fawr y bydd rhestr flaenoriaethu'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio yn wahanol iawn i'r un y cyfeiriodd Mr Price ato gan Lywodraeth yr Alban, ond byddwn yn aros am gyfnod byr—dim ond am gyfnod byr—tan i ni gael yr wybodaeth bellach a dibynadwy honno am nifer y brechlynnau fydd ar gael i ni, natur y brechlynnau hynny, y grwpiau blaenoriaeth y byddan nhw'n cael eu darparu ar eu cyfer, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y gallwn ni fel nad yw pobl yng Nghymru, fel y dywedais, yn cael cyfres o uchelgeisiau ond cynllun ymarferol y gallan nhw ddibynnu arno.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd ddoe bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau COVID llymach yn y cyfnod cyn y Nadolig. A allwch chi gadarnhau pa gyfyngiadau yr ydych chi'n eu hystyried nawr, o gofio eich bod chi eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau ar sail awdurdodau lleol, cyfyngiadau o ran cyfyngiadau symud hyperleol, a chyfyngiadau cenedlaethol erbyn hyn?
Wel, Llywydd, mae'r sail ar gyfer yr hyn a ddywedodd y Gweinidog iechyd ddoe i'w chanfod yn y ffigurau, ac rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn eu dilyn, fel yr wyf innau'n ei wneud bob dydd. Yn dilyn pythefnos a mwy o ffigurau yn gostwng ledled Cymru, rydym ni bellach wedi cael tri diwrnod yn olynol lle mae'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan wedi codi, ac yn ffigurau heddiw, mae 17 o'r 22 awdurdod lleol yn adrodd cynnydd yn yr ystod oedran o dan 25 oed. Nawr, mae'r niferoedd yn parhau i ostwng yn yr ystod oedran dros 60 oed, ac mae hynny yn newyddion da, oherwydd o ran effaith ar y gwasanaeth iechyd gwyddom mai dyna lle mae pobl yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio waethaf gan y feirws. Ond rydym ni hefyd yn gwybod, o adeg gynharach yn yr hydref, bod y cynnydd cyflym a welsom ym mis Medi ac i fis Hydref wedi dechrau gyda chynnydd yn y boblogaeth iau. Felly, y cefndir hwnnw a oedd yno pan ddywedodd y Gweinidog iechyd yr hyn a ddywedodd ddoe, ac mae'n rhan o'r hyn a ddywedais wrth Adam Price, fy mod i wedi bod yn dadlau'r achos yn y cyfarfodydd yr ydym ni wedi eu cael gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig am ddull gweithredu sydd wedi'i gyfochri yn fras nid yn unig ar gyfer cyfnod byr y Nadolig ond yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn y cyfnod ar ôl y Nadolig.
Felly, rydym ni wedi dilyn yn ofalus yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud hyd yma yr wythnos hon am ddychwelyd at system haenau wedi'i had-drefnu yn Lloegr. Byddwn yn aros i gael rhagor o wybodaeth am hynny, y prynhawn yma o bosibl, ac eto ddydd Iau, ac yna, yr wythnos hon, bydd y Cabinet yn cyfarfod yn eithaf rheolaidd. Cawsom gyfarfod ddoe. Cawsom gyfarfod y bore yma. Byddwn yn cyfarfod eto cyn diwedd yr wythnos i weld a oes mesurau ychwanegol y mae angen i ni eu cyflwyno yng Nghymru, i ganolbwyntio ar natur y cynnydd yr ydym ni'n ei weld ac a fyddai'n rhoi'r aliniad bras hwnnw i ni â'r dull sy'n cael ei ddilyn gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn rhan o greu'r lle hwnnw sydd ei angen ar bob un ohonom ni i ganiatáu llacio dros gyfnod y Nadolig.
Rwy'n cymryd o'r ateb yna, felly, Prif Weinidog, eich bod chi efallai'n edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno rhyw fath o system haenau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir rhai gwahaniaethau rhwng y dulliau haenau yn yr Alban a Lloegr ac mae'n bwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar effaith y ddwy gyfres o gyfyngiadau seiliedig ar haenau cyn cadarnhau ei dull gweithredu ar gyfer Cymru.
Nawr, mae eleni wedi bod mor anodd i gymaint o bobl, fel sydd newydd gael ei ddweud yn gynharach, a dyna pam mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn eglur i bobl Cymru sut yn union y bydd dull gweithredu newydd yn edrych a sut y bydd y cyfyngiadau hynny yn effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Felly, efallai y gallwch chi roi syniad i ni, Prif Weinidog, pryd y byddwch chi'n cyflwyno'r mesurau newydd hyn. A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi'n eu darparu i gefnogi'r mesurau newydd a'r cyfyngiadau newydd hyn?
Wel, Llywydd, rwy'n credu fy mod i wedi rhoi rhyw syniad, gystal ag y gallaf, i arweinydd yr wrthblaid eisoes am y llwybr gwneud penderfyniadau yr ydym ni'n ei weld o'n blaenau. Mae cyfarfod COBRA y prynhawn yma. Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Paul Davies ynglŷn â chymryd i ystyriaeth y gwahanol ddulliau yn yr Alban yn ogystal ag yn Lloegr. Siaradais â Phrif Weinidog yr Alban unwaith eto ddoe. Ar ôl y cyfarfod heddiw, ceir cyhoeddiadau pellach y byddwn ni'n eu disgwyl yng nghyd-destun Lloegr ddydd Iau yr wythnos hon, dywedir wrthym, a fydd yn cynnig rhagor o wybodaeth i ni am weithrediad eu dull haenau. Ni fyddwn yn neidio ar unwaith, fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, i gasgliad, oherwydd bod gennym ni ddiddordeb yn y mesurau sy'n cael eu cymryd mewn mannau eraill, bod hynny o reidrwydd yn golygu y byddwn ni'n mabwysiadu dull haenau yma yng Nghymru. Cynnwys y mesurau, nid dim ond eu trefn, y bydd gennym ddiddordeb ynddo.
Bydd y Cabinet yn cyfarfod unwaith eto cyn diwedd yr wythnos hon i weld a oes gwersi i ni eu dysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill a dull cyffredin ledled y Deyrnas Unedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn bwysig hefyd, yn y modd y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni ymdrin â chanlyniadau anochel llacio, a fydd yn sbarduno cynnydd yn y coronafeirws. Mae hynny'n anochel, ac mae angen i ni baratoi gyda'n gilydd i ymdopi â'r canlyniadau.
Wrth gwrs, nid unigolion a theuluoedd yn unig sy'n awyddus i gael gwybod a fydd unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau yng Nghymru. Mae'n sicr y bydd busnesau ledled Cymru hefyd yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o gyfyngiadau pellach. Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn gyfnod prysur, wrth gwrs, i fusnesau ym mhob sector, ac yn sgil blwyddyn anodd iawn, mae'n ddealladwy y bydd llawer yn pryderu, efallai, o glywed am gyfyngiadau pellach.
Felly, mae'n gwbl hanfodol bod adnoddau a chymorth yn cael eu rhoi ar waith o flaen unrhyw newidiadau fel bod busnesau yn gallu cynllunio ac addasu eu gweithrediadau yn unol â hynny. A wnewch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn hysbysu busnesau ledled Cymru cyn bod unrhyw gyfyngiadau newydd yng Nghymru fel bod ganddyn nhw amser i gynllunio ar gyfer unrhyw newidiadau? Ac, a allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ynglŷn â chyflwyno cyfyngiadau newydd a pha adborth yr ydych chi wedi ei gael gan awdurdodau lleol hyd yn hyn gydag unrhyw gyfyngiadau posibl?
Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol iawn o effaith y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud ar fusnesau yng Nghymru ac ar fywoliaeth pobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi swm sylweddol iawn o arian at ei gilydd yr ydym ni wedi ei fuddsoddi i geisio amddiffyn busnesau yng Nghymru rhag effaith coronafeirws—mae hynny yn ychwanegol at unrhyw gymorth sydd wedi dod gan Lywodraeth y DU. Ac mae angen i Lywodraeth y DU, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory, wneud yn siŵr ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wneud yn siŵr bod busnesau yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa i wrthsefyll effaith barhaus coronafeirws, ac mae angen iddi wneud hynny mewn modd mwy brwdfrydig. Nid yw'r ail-gyhoeddiadau mynych gan Ganghellor y Trysorlys o'r pecyn cymorth sy'n dod gan Lywodraeth y DU wedi bod o gymorth, yn fy marn i. Rydym ni'n gwneud y gorau y gallwn ni yng Nghymru i helpu busnesau; rwy'n credu mai dull gweithredu'r Canghellor yw gwneud y lleiaf posibl y gall ei wneud heb gael ei feirniadu, a dyna'r gwahaniaeth gwirioneddol rhyngom ni.
Mae trafodaethau gydag awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn cael eu cynnal drwy'r amser. Bydd cyfarfodydd heddiw yn cynnwys y Gweinidog iechyd, y Gweinidog llywodraeth leol, y Gweinidog addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinyddion eraill awdurdodau lleol yng Nghymru, a'r dull partneriaeth hwnnw yw'r un sydd, yn ein barn ni, wedi llwyddo i'n cynnal ni drwy'r argyfwng hyd yma, a byddwn yn sicr, yng Nghymru, y byddwn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo iddo.