Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Llywydd, diolchaf i Mick Antoniw am hynna. Mae'r rhagolygon cyflogaeth a thwf diweddaraf yn dangos yn eglur yr effaith niweidiol y mae pandemig y coronafeirws yn ei chael ar economi Cymru a thu hwnt. Hyd yma, mae ein cronfa i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £7 miliwn o gymorth i 2,379 o fusnesau, sy'n cwmpasu dros 22,000 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf yn unig.