1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Tachwedd 2020.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar yr economi ym Mhontypridd a Thaf-Elái? OQ55944
Llywydd, diolchaf i Mick Antoniw am hynna. Mae'r rhagolygon cyflogaeth a thwf diweddaraf yn dangos yn eglur yr effaith niweidiol y mae pandemig y coronafeirws yn ei chael ar economi Cymru a thu hwnt. Hyd yma, mae ein cronfa i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £7 miliwn o gymorth i 2,379 o fusnesau, sy'n cwmpasu dros 22,000 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf yn unig.
Diolch am yr ateb yna,Prif Weinidog. Yn fy etholaeth i ym Mhontypridd, rydym ni wedi brwydro gyda llifogydd, sy'n taro ein heconomi a'n seilwaith yn galed, ac, wrth gwrs, rydym ni'n brwydro gyda COVID, gyda rhai o'r cyfraddau uchaf o'r haint yng Nghymru. Ac, fel miloedd lawer o bobl eraill, rwyf i wedi sefyll y tu allan i'm cartref ac wedi clapio a chymeradwyo ein gweithwyr sector cyhoeddus fel cymuned, ac rydym ni wedi cydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig. Mae llawer ohonyn nhw wedi dioddef COVID; mae rhai wedi marw. Mae ein meddyliau gyda theulu Mark Simons, cynorthwy-ydd gofal iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a chynrychiolydd iechyd a diogelwch Unite. Bu farw ar 10 Tachwedd ar ôl dal coronafeirws. Prif Weinidog, mae ein holl weithwyr sector cyhoeddus wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyliad i'n cadw ni'n ddiogel ac i'n hamddiffyn ni a'n teuluoedd. Nawr, ddydd Mercher, tra bod ffrindiau'r Llywodraeth Dorïaidd yn gwneud miliynau o bunnoedd o elw o gontractau cyfarpar diogelu personol amheus, mae'r Canghellor, Rishi Sunak, yn bwriadu dweud wrth ein gweithwyr sector cyhoeddus mai eu gwobr am eu haberth fydd tair blynedd o rewi cyflogau degau o filoedd o weithwyr Cymru—dychweliad i gyni cyllidol y Torïaid.
Prif Weinidog, nid yw'n rhy hwyr i ofyn i Lywodraeth y DU wneud tro pedol. Felly, a wnewch chi gysylltu â Phrif Weinidog y DU fel mater o frys a gwneud popeth o fewn eich gallu i'w annog i anrhydeddu a chydnabod cyfraniad ein holl—a phwysleisiaf 'holl'—weithwyr sector cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn?
Wel, diolchaf i Mick Antoniw am hynna, Llywydd. Diolch iddo am ein hatgoffa—gwn nad yw'r Aelodau yma yn anghofio o gwbl, ond dim ond am ein hatgoffa—bod bywydau pobl go iawn y tu ôl i bopeth yr ydym ni'n ei drafod yn y fan yma. Adroddwyd dros 3,300 o farwolaethau yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw, ac mae llawer o'r bobl hynny wedi bod yn weithwyr rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac mewn mannau eraill. Felly, wrth gwrs, nid yw'n rhy hwyr i annog Canghellor y Trysorlys i ddiystyru rhewi cyflogau sector cyhoeddus a darparu'r cyllid, ledled y Deyrnas Unedig, sydd ei angen arnom i ddiogelu ein hiechyd, ein swyddi, ac i gynorthwyo adferiad teg. Mae gweithwyr ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus wedi parhau i chwarae eu rhan hanfodol yng nghanol pandemig byd-eang, gan helpu i achub bywydau a chadw gwasanaethau i fynd. Dylid eu cydnabod am yr ymdrech hon ac nid eu gorfodi i dalu'r bil.
Mae'r Canghellor yn dweud nad oes unrhyw ddychweliad i gyni cyllidol. Wel, rwy'n sicr yn gobeithio bod hynny'n wir o ran gweithwyr sector cyhoeddus sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr argyfwng hwn ac sy'n haeddu cael eu cydnabod am hynny. Yn anffodus, Llywydd, dywedir wrthyf na fydd Prif Weinidog y DU yn mynychu'r cyfarfod COBRA eto y prynhawn yma. Efallai y byddech chi'n meddwl, o ystyried arwyddocâd y penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yno, y gallai Prif Weinidog y DU feddwl bod honno yn sgwrs y byddai'n dewis cymryd rhan ynddi. Ond, os bydd cyfle yn codi—bydd Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU yno, ac, os bydd y cyfle hwnnw yn codi, byddaf yn sicr yn gwneud y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud yn y fan hon y prynhawn yma.
Prif Weinidog, rwy'n pryderu yn arbennig am bobl ifanc yng Nghanol De Cymru, gan gynnwys Pontypridd, sy'n ymuno â'r farchnad lafur neu'n ceisio ymuno â hi yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n credu bod gennym ni brofiad gwael iawn yn y gorffennol o bobl ifanc yn ymuno â'r farchnad lafur yn ystod cyfnod o adfyd economaidd. A byddwn yn eich annog i edrych ar y pecynnau hyfforddi a hefyd y cyllid sydd ar gael ar gyfer astudio ôl-raddedig, er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd nesaf, oherwydd rwy'n credu y bydd angen defnyddio'r mathau hyn o raglenni, sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru i raddau mwy helaeth nag yr oeddem ni wedi ei gynllunio efallai, ond bydd hyn hefyd yn helpu ein colegau addysg bellach a'r sector prifysgolion. Ond mae gwir angen cynorthwyo pobl ifanc gymaint ag y gallwn yn ystod y cyfnod hwn.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt y mae David Melding yn ei wneud. Mae gennym ni brofiad anodd iawn yng Nghymru o genedlaethau o bobl ifanc heb ddyfodol wedi'i fapio o'u blaenau, ac yn sicr nid ydym ni eisiau dychwelyd i hynny yn yr argyfwng hwn. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod—y bydd pobl ifanc a fydd yn dewis defnyddio'r cyfnod hwn i fuddsoddi ymhellach mewn datblygu eu sgiliau a'u haddysg eu hunain, fel eu bod, pan fydd pethau'n gwella, yn fwy parod i fanteisio ar hynny, a byddwn ni eisiau eu helpu nhw i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Gwn y bydd yr Aelod wedi gweld y cyhoeddiad ar 11 Tachwedd, pan ddarparwyd rhagor o fanylion gennym am y cymorth y gall busnesau ei gael—a cholegau addysg bellach, wrth gwrs, o ganlyniad—i hyrwyddo prentisiaethau yma yng Nghymru. Mae busnesau yn gallu hawlio £3,000 erbyn hyn ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed pan ei fod yn cael ei gyflogi am o leiaf 30 awr, a gwn y bydd David Melding yn croesawu yn arbennig y ffaith bod £1,500 ychwanegol ar gyfer unrhyw fusnes sy'n gallu cyflogi person ifanc anabl newydd fel prentis. Ar 18 Tachwedd, cyhoeddwyd y gronfa rhwystrau dechrau busnes gennym, swm o £1.2 filiwn, wedi ei thargedu yn benodol ar gyfer y bobl ifanc hynny a adawodd y coleg a'r brifysgol yn 2019 a 2020 y gallai fod ganddyn nhw syniadau eu hunain am fusnesau yr hoffen nhw geisio eu cychwyn, ond sydd angen y cymorth a'r gefnogaeth ychwanegol hynny gan y Llywodraeth er mwyn gallu gwneud hynny, a bydd y gronfa rhwystrau dechrau busnes honno wedi'i thargedu yn arbennig at y math o bobl ifanc y mae David Melding wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.