Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig yna? Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gwybodaeth am imiwneiddio yn gywir ac yn hygyrch a bod pawb sy'n darparu brechiadau wedi'u hyfforddi'n dda ac yn hyderus wrth ddarparu gwybodaeth am imiwneiddio.