Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Rwy'n credu ei fod yn taflu goleuni sylweddol iawn ar y sefyllfa. Rwy'n credu ei bod hi'n briodol dweud, wrth gwrs, fod menywod yn cael eu gorgynrychioli, os mynnwch chi, mewn sectorau sydd wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn ystod argyfwng COVID, sydd, yn fy marn i, yn dangos yn glir iawn yr her y mae llawer o'r menywod hyn yn ei hwynebu. Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn gweithio mewn swyddogaethau nad oedden nhw efallai yn talu'n dda ers blynyddoedd lawer cyn wynebu'r pwysau ariannol y maen nhw yn ei wynebu o'r newydd o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU. Rwy'n gwybod y bydd yr un mor siomedig â minnau nad yw'r strategaeth ymgyfreitha yr oedd y grwpiau ymgyrchu yn ei dilyn wedi gallu dwyn ffrwyth. Ond mae hynny bellach, rwy'n credu, yn rhoi cyfrifoldeb penodol ac arbennig ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu â'r grwpiau sydd wedi bod yn dadlau ar ran menywod yr effeithir arnyn nhw. Rwyf i, a dychmygaf fod llawer o Aelodau eraill yn y Siambr, wedi cael gohebiaeth gan fenywod yr effeithiwyd arnyn nhw yn cyflwyno cynigion synhwyrol a phragmatig iawn ar gyfer sut y gellid mynd i'r afael â'r her a'r anghyfiawnder hwn. Ac yn y goleuni hwnnw y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, i'w hannog i ymgysylltu â'r grwpiau hyn a thrafod datrysiad.