Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A yw'n cytuno â mi fod rhesymau penodol yng nghyd-destun COVID pam y dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn fel mater o frys? Mae cyngor swyddogol i bobl dros 60 oed yn awgrymu y dylai pobl leihau eu cysylltiad ag eraill, ac eto, mae llawer o fenywod y 1950au yn gweithio mewn swyddogaethau sy'n gofyn am ymwneud â'r cyhoedd megis gofal cymdeithasol, y GIG a manwerthu. Maen nhw'n dweud wrthyf eu bod yn ofni mynd i'r gwaith, ond na allan nhw fforddio peidio â gwneud hynny. Ac mae'n bosib y gellid rhyddhau 1.5 miliwn o swyddi pe caniateid i'r menywod hynny godi eu pensiynau nawr a chael rhywfaint o iawndal am yr hyn y maen nhw wedi'i golli. Effeithir ar dros 5,000 o fenywod yn Llanelli yn fy rhanbarth i yn unig. Mae Llywodraeth y DU wedi gallu darganfod adnoddau pan fo angen, i ymateb i argyfwng COVID, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gwerthfawrogi hynny. Ond a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylen nhw edrych eto yn y cyd-destun hwn lle gofynnir i fenywod weithio mewn sefyllfaoedd lle nad ydyn nhw efallai'n ddiogel, a lle mae gennym ni bobl ifanc, fel y clywsom ni mewn ymateb i gwestiynau cynharach, yn chwilio'n daer am waith—onid yw'n bryd i Lywodraeth y DU weithredu? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ystyried gohebu ymhellach â Llywodraeth y DU, yn y cyd-destun ar ôl COVID hwn, ar ran y menywod?