Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Sefydlodd Gweinidogion Cymru dasglu yn gwerthuso atebion posibl o ran ffyrdd heb eu mabwysiadu. Daeth i'r casgliad nad oedd angen newidiadau deddfwriaethol, ond cyhoeddwyd canllaw arfer da, gan leihau'r risg o greu ffyrdd pellach heb eu mabwysiadu. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau o'n galwad am dystiolaeth ynglŷn â thaliadau ystadau ar ddatblygiadau newydd.