Mabwysiadu Ffyrdd

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:47, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn y ddadl gan Aelodau, a gynigiais yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2018, roeddwn yn falch o weld yr adroddiad gan y tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu. Fodd bynnag, mae un elfen yn fy siomi, ac mae hynny'n ymwneud â'r diffyg pwysau cyfreithiol y tu ôl i rai o'r argymhellion. Yn benodol, mae canllaw model mabwysiadu ffyrdd y tasglu yn nodi, os caiff pum eiddo neu fwy eu gwasanaethu gan ffordd mewn datblygiad tai newydd, y dylai awdurdodau priffyrdd gyflwyno hysbysiad cod talu uwch i ddatblygwyr, sydd yn ei hanfod yn sicrhau bod bond ariannol ar waith i dalu unrhyw gostau yn y dyfodol o godi'r ffordd i safon y gellir ei mabwysiadu, fel y gwyddoch chi. Fodd bynnag, nid yw canllawiau ac argymhelliad, byddwn yn awgrymu, yn ddigon cryf, yn fy marn i, yn yr achos hwn. A wnewch chi, felly, ymrwymo i gynnal trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog trafnidiaeth i archwilio a ddylid cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn er mwyn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno hysbysiad i ddatblygwyr mewn amgylchiadau o'r fath?