Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir i Lywodraeth y DU fod cytundeb masnach gyda'r UE yn hanfodol bwysig i ddinasyddion a busnesau Cymru. Fodd bynnag, gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol rydym yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr holl ddeddfwriaeth angenrheidiol yng Nghymru i allu gweithredu canlyniad o 'dim cytundeb masnach' erbyn 31 Rhagfyr.