Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A gaf i ofyn pa mor ffyddiog ydyw y bydd gennym ni fframwaith cyfreithiol ymarferol, y bydd modd gweithio ag ef, mewn meysydd pwysig, fel yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, a oedd gynt yn deillio o gyfraith Ewrop? Mae'n siarad, yn ei ymateb i Delyth Jewell, am ddewis adeiladol arall yn lle Bil y farchnad fewnol, ac, wrth gwrs, dyna'r ffordd gywir o fynd ati, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y dylid gweithredu i ddiogelu'r setliad datganoli os caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio heb ei diwygio? A yw'n rhannu fy mhryder, a phryder a fynegwyd yn ddiweddar gan yr Athro Emyr Lewis ym Mhrifysgol Abertawe, y gallwn ni, os caiff y Bil hwn ei basio heb ei ddiwygio, wynebu Llywodraeth y DU sy'n cael blas ar ddeddfu mewn ffordd sy'n rhoi ei hun y tu hwnt i gwmpas arferol y gyfraith? A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch pa gamau cyfreithiol, os o gwbl, y gellid eu cymryd pe cai'r Bil hwn ei basio heb ei ddiwygio? Gobeithio y byddai'n cytuno â mi y byddai'n beryglus iawn yn wir i Lywodraeth y DU gael blas ar basio deddfwriaeth sy'n rhoi ei hun y tu hwnt i gwmpas y gyfraith.