Mabwysiadu Ffyrdd

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:48, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn pellach ynglŷn â hynny. Credaf y gwnaeth Gweinidog yr economi, a gomisiynodd waith y tasglu, ddatganiad ynglŷn â hyn ddiwethaf ychydig wythnosau'n ôl, ddiwedd mis Hydref. Roedd argymhellion y tasglu, sydd, yn amlwg, wedi'i gyfansoddi er mwyn rhoi cyngor, o'r farn bod y ffordd orau ar hyn o bryd yn sicr yn ymwneud â defnyddio Deddf Priffyrdd 1980, a'r pwerau o dan adran 38 yn benodol, ac y gellid cyflawni gweddill ei argymhellion, yn wir, heb ddeddfwriaeth sylfaenol. Fel y dywedais, mae galw pellach am dystiolaeth ynglŷn â materion sy'n ymwneud â thaliadau ystadau. Mae'r sylw y mae'n ei wneud am y rhwymedigaethau talu, yn amlwg, yn peri pryder arbennig. Bydd yn rhaid parhau i weld a fydd unrhyw ystyriaethau deddfwriaethol yn codi yng nghyd-destun taliadau ystadau pan fydd gennym ni'r argymhellion a chanlyniad yr alwad am dystiolaeth.