Pysgodfeydd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:50, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Bu bron imi wirio i weld o ba feinciau yr oedd y cyflwyniad yna'n dod am eiliad. Byddaf bob amser yn croesawu cydnabyddiaeth gynyddol gan feinciau ar bob rhan o'r Siambr hon o effaith yr her sydd o'n blaenau. Dywedaf ei bod yn gyfres sylweddol iawn o heriau y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ceisio ymgodymu â hwy, ac rwy'n falch bod cydnabyddiaeth o'r risgiau sydd yn y cyfnod i ddod o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd o bosib heb gytundeb. 

Yr hyn a ddywedaf o safbwynt polisi—. Rwy'n siŵr y bydd fy nghydweithiwr, y Gweinidog sy'n gyfrifol am bysgodfeydd, yn cyflwyno rhagor o wybodaeth maes o law. Cyfeiriaf Janet Finch-Saunders at ddatganiad Lesley Griffiths ychydig wythnosau'n ôl ynglŷn â chynlluniau ar gyfer cefnogi pysgodfeydd yn y dyfodol o ran yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Moroedd', a amlinellodd rai o'n cynigion. Ond, hoffwn ddweud wrthi y bu cydweithio agos iawn â rhannau eraill o'r DU yn hyn o beth, fel bod gennym ni yr offer ar gael er mwyn gallu gofalu am fuddiannau pysgotwyr yng Nghymru, o ran deddfwriaeth, paratoi ar gyfer cymorth ariannol yn y dyfodol o ddechrau'r flwyddyn nesaf, a chynlluniau maes o law ar gyfer Bil pysgodfeydd i Gymru.