Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Diolch. Er fy mod yn sicr yn gobeithio am gytundeb, yn enwedig yng ngoleuni y sôn gan Ursula von der Leyen am gynnydd ddydd Sadwrn diwethaf, fodd bynnag, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf. Dim ond 37 diwrnod o bontio sydd gennym ni ar ôl, felly mae'n hanfodol bod pawb yng Nghymru yn paratoi hyd eithaf eu gallu, gan gynnwys holl bysgodfeydd Cymru. Yn ddiau, cafwyd newyddion rhagorol, gan y bydd y cytundeb â Chanada yn golygu y gellir allforio pysgod yn rhad ac am ddim. Ond, wrth gwrs, ni allwn ni anghofio pwysigrwydd marchnad yr UE. Er enghraifft, aiff dros 60 y cant o allforion bwyd môr Cymru i Sbaen. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cymorth pysgodfeydd, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ymdrechu i gael cynllun ymyrraeth ledled y DU. Yn ôl cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, y sefyllfa ddiweddaraf oedd eich bod yn cyfathrebu â Llywodraeth y DU. Allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd a'i Haelodau heddiw ynglŷn â phryd yr ydych chi'n gobeithio y bydd y cymorth hwn ar gael rhag ofn y gallai fod ei angen?