Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Diolch. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio yn cydnabod y byddai gennym ni gytundeb yn y sefyllfa orau, ac rwyf eisiau gweld cytundeb masnach. Ond, mae'n rhaid i ni baratoi, a, gadewch i ni fod yn onest, rydych chi Lywodraeth Cymru, wedi cael amser hir ers y bleidlais honno i wneud y paratoadau hyn. Rydych chi wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gobeithio, i ddatblygu cynllun wrth gefn ledled y DU mewn ymateb i'r effeithiau posibl ar y sector defaid. Yn ôl y cynllun ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, roedd y dyluniad gweithredol eto i'w gwblhau ar 11 Tachwedd 2020. A gafwyd y cytundeb hwn bellach ac, os felly, a wnewch chi amlinellu inni fel Aelodau sut y bydd y cynllun ymyrryd mewn argyfwng yn gweithio?
Mae NFU Cymru wedi codi pryderon bod sector llaeth Cymru yn agored i niwed o ganlyniad i'w faint a'i allu i brosesu llaeth, a dibyniaeth ar farchnad nwyddau llaeth nad yw'n talu'n rhy dda, fel y gwyddom ni i gyd. Beth ydych chi'n ei wneud, Gwnsler Cyffredinol, i ddiogelu ein diwydiant llaeth cyn y flwyddyn nesaf hefyd?