Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Wel, mae'n ddrwg gennyf siomi Janet Finch-Saunders, ond credaf fod y cwestiynau hynny'n canolbwyntio'n bennaf ar ymateb polisi'r Llywodraeth o ran cefnogi'r sector cig coch, ac rwy'n credu mai mwy priodol mae'n debyg fyddai cyflwyno'r cwestiynau hynny i Lesley Griffiths y Gweinidog sy'n gyfrifol. Ond, o safbwynt cyfreithiol, bydd yn ymwybodol, yn Neddf Amaethyddiaeth 2020, er enghraifft, fod Gweinidogion Cymru wedi cymryd pwerau'n benodol i ymdrin ag amodau marchnad eithriadol, y byddai'r amodau hyn yn amlwg yn eu cynrychioli, ac yn rhoi pwerau i ni gefnogi'r sector o dan yr amgylchiadau hynny.
Fel y mae hi ei hun yn ei gwneud yn glir, mae'n hanfodol bwysig i'r sector cig coch y dylid dod i gytundeb. Allforir 35 y cant o'n cig oen, ac allforir 90 y cant o hynny i farchnad yr UE. Felly, os na sicrhawn ni gytundeb sy'n diogelu buddiannau ffermwyr Cymru yn hynny o beth, yn sicr bydd angen ymyrraeth ledled y DU, a byddwn yn gofyn i'r Trysorlys ariannu'r ymyriad hwnnw. Ond, fel y dywedais, mae gennym ni'r fframwaith cyfreithiol ar waith i alluogi hynny i ddigwydd.