4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:45, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad sylweddol a'r newyddion heddiw fod y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Er hynny, mae rhai pryderon yn dal gennyf yr hoffwn i eu codi nhw heddiw, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am eich sylwadau chi ar y rhain. Rwy'n dal i bryderu am wasanaethau iechyd meddwl yn benodol,  ac fe fyddwn i'n croesawu eich barn chi ynglŷn â'r gwelliant sy'n digwydd yn y gwasanaeth. Yn ail, a wnewch chi amlinellu hefyd sut rydych chi'n teimlo y mae'r bwrdd iechyd yn perfformio o ran llawdriniaethau dewisol? Ac yn olaf, mae angen gwell darpariaeth o feddygon teulu ar rannau o Alun a Glannau Dyfrdwy yn benodol; mae lleoedd fel Saltney, yn enwedig, heb wasanaeth digonol. Felly pa mor hyderus ydych chi, Gweinidog, y bydd y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â hyn yn iawn? Ac os caf i, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, ddiolch ar goedd i'r holl staff ledled y gogledd yn y GIG, a ledled Cymru, nid am yr hyn y maen nhw'n ei wneud nawr yn unig ac yn parhau i'w wneud, ond am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud bob amser i'n cynorthwyo ni drwy gyfrwng y system gofal iechyd yng Nghymru? Diolch.