– Senedd Cymru am 3:26 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Felly, rydym ni'n ailymgynnull gydag eitem 4 ar yr agenda, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: yr wybodaeth ddiweddaraf am Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaladr. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, caiff ystyriaeth ei rhoi i statws uwchgyfeirio ac ymyriad y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau yng Nghymru fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd sydd gennym ni ar y cyd. Mae hyn yn golygu bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol sefydliadau GIG Cymru o ran ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Rhoddir ystyriaeth i ystod eang o wybodaeth a hysbysrwydd ar gyfer nodi unrhyw faterion i lywio eu hasesiad a'u cyngor i mi fel Gweinidog Iechyd. Mae cyfle hefyd i gynnal cyfarfodydd ychwanegol, pe byddai'r grŵp o'r farn bod angen hynny.
Yn y cyfarfod tairochrog llawn diwethaf a gynhaliwyd ym mis Medi, fe gytunwyd i gynnal cyfarfod pellach cyn diwedd y flwyddyn galendr, yn benodol ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n falch o gael dweud y cynhaliwyd cyfarfod tairochrog arbennig yn gynharach y mis hwn. Y cyngor a'r argymhelliad clir i mi oedd y dylid newid statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwnnw. Rwyf wedi penderfynu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dod allan o fesurau arbennig a hynny ar unwaith. Mae statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd bellach wedi newid i ymyriad wedi'i dargedu.
Fe adolygodd y grŵp tairochrog dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd a oedd yn dangos cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys mewn meysydd a nodwyd yn wreiddiol yn bryderon a oedd yn teilyngu mesurau arbennig. Fe nododd y grŵp fod y bwrdd iechyd wedi dangos ymgysylltiad gwell gyda phartneriaid, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol. Roedd hefyd yn cydnabod dealltwriaeth y bwrdd iechyd o'r heriau y mae'n eu hwynebu o hyd, ynghyd â'r penderfyniad a ddangoswyd gan y bwrdd a'r prif weithredwr newydd i sicrhau cynnydd pellach.
Nododd y grŵp tairochrog yr effaith andwyol yr oedd bod mewn mesurau arbennig wedi'i chael ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff, yn enwedig ar lefel uwch. Mae hyn wedi arwain at lenwi nifer o swyddi cyfarwyddwyr gweithredol dros dro ar hyn o bryd. Mae'n amlwg nad yw hyn yn fuddiol iawn i'r bwrdd iechyd wrth symud ymlaen. Roedd mesurau arbennig yn cael effaith hefyd ar allu'r bwrdd iechyd i wneud y cynnydd pellach sy'n angenrheidiol.
Mae pryderon o hyd ynghylch rhai agweddau ar berfformiad, yn enwedig mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gallu'r bwrdd iechyd i baratoi cynllun tymor canolig y gellir ei gymeradwyo. Wrth symud ymlaen, er mwyn darparu eglurder a sicrwydd o'r pwysigrwydd angenrheidiol, fe ddefnyddir dull matrics aeddfedrwydd, sy'n debyg i'r prosesau a fu ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Ar 3 Tachwedd, fe gyhoeddais i becyn cymorth i'r bwrdd iechyd. Mae'r cymorth hwn yn gyfanswm o £82 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros dair blynedd a hanner i gefnogi'r bwrdd iechyd wrth iddo ddechrau ar gyfnod newydd o dan ymyriad wedi'i dargedu, ac mae'n dal ati â'i waith parhaus i wireddu gwelliannau. Mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi ymateb eisoes gan amlinellu sut y defnyddir y cymorth hwn i wella gofal heb ei gynllunio, i feithrin gofal a drefnir mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, i sicrhau y bydd gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac, wrth gwrs, er lles iechyd poblogaeth y gogledd.
Fe ddylid cofio bod ymyriad wedi'i dargedu yn parhau i fod yn lefel fwy dwys o uwchgyfeirio. Mae hyn yn gofyn am weithredu sylweddol gan y sefydliad, ac fe fydd yna lefel o oruchwyliaeth barhaus gan fy swyddogion i sy'n cyd-fynd â hyn. Er hynny, mae symud allan o fesurau arbennig heb os nac oni bai yn gam ymlaen i staff y bwrdd iechyd sydd wedi gwireddu a chynnal y cynnydd i ddod â'r mesurau arbennig i ben. Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen hefyd i bob cymuned yn y gogledd sy'n cael ei gwasanaethu gan y bwrdd iechyd.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â mi i longyfarch staff yn y bwrdd iechyd wrth iddyn nhw symud i gam nesaf eu taith nhw o ran gwelliant.
A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch ar goedd ar ran pawb ar feinciau Ceidwadwyr Cymru i'r aelodau hynny o staff rheng flaen y GIG yn y gogledd sydd wedi bod yn gweithio mor galed, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn?
Trueni mawr, Gweinidog, na fuoch chi mor gwrtais â briffio unrhyw Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau heddiw ynglŷn â'ch penderfyniad, ac mewn gwirionedd, fe fuoch chi mor anghwrtais, hyd yn oed, â pheidio â rhannu eich datganiad nes yn union cyn ichi ei ddarllen yn gyhoeddus. Y gwir amdani yw ei bod hi'n ymddangos bod gan y cyhoeddiad heddiw fwy i'w wneud â rhagolygon y Blaid Lafur yn y gogledd yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf nag ydyw ag unrhyw dystiolaeth o welliant gwirioneddol ar lawr gwlad yn y gogledd. Ni ellir cyfiawnhau eich penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennig ac ni allwch dwyllo na chamarwain pobl y gogledd i feddwl bod popeth yn iawn. Nid yw eich disgrifiad chi o welliant yn debyg o gwbl i realiti profiadau cleifion ledled y rhanbarth.
Gadewch inni edrych ar y ffeithiau. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chweched flwyddyn o fesurau arbennig. Yn y cyfnod hwn, mae'r bwrdd wedi gweld newidiadau parhaus o ran ei uwch dîm arwain, gyda nifer fawr o brif weithredwyr, nifer fawr o gyfarwyddwyr cyllid, a nifer fawr o gyfarwyddwyr iechyd meddwl. Yn wir, mae'r cyfarwyddwr iechyd meddwl presennol yn gadael ei swydd ddiwedd y mis hwn, rhicyn arall ym mhostyn gwely Betsi.
Ers 2015, mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu, mae rhestrau aros ac amseroedd aros wedi dirywio ac wedi mynd yn hwy, ac mae sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wedi dirywio hefyd. Mae'r ffigurau diweddar yn dangos mai gan Betsi y mae'r adrannau achosion brys sy'n perfformio waethaf o hyd yng Nghymru gyfan, gydag un o bob 10 o bobl yn aros mwy na 12 awr cyn y gellir eu rhyddhau nhw ar ôl cyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, ac ni ellir rhyddhau dros hanner, bron hanner y boblogaeth sy'n cyrraedd yno o fewn pedair awr.
Fe wyddom fod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i fod yn fregus yn y rhanbarth, gyda mwy o bractisau a reolir yn unrhyw ardal bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, fe wyddom ni bellach fod gwasanaethau deintyddiaeth yn fregus ledled y gogledd hefyd, gydag 20,000 o gleifion wedi cael rhybudd y bydd eu gwasanaethau GIG nhw'n dod i ben ddechrau'r flwyddyn nesaf. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n barod ar gyfer dod allan o'r trefniadau mesurau arbennig.
Roeddech chi'n cyfeirio at nifer o resymau pam aeth y bwrdd iechyd hwn i fesurau arbennig, ac roedd llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn un ohonyn nhw. Fe wyddom fod gwendidau yno o hyd oherwydd fe gafwyd achosion diweddar o'r coronafeirws yn torri allan mewn dau o'r ysbytai yn y gogledd, ac ni ddaeth yr un ohonyn nhw i'r amlwg oherwydd sefyllfa'r bwrdd iechyd, ond oherwydd bod Aelodau lleol o'r Senedd wedi ysgrifennu i godi pryderon.
Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi dod trwy'r gwaethaf eto chwaith. Er gwaethaf addewidion o adeiladau newydd a gwych, mae'r diwylliant yn yr adrannau hynny'n parhau i fod yr un peth. Mae gennym 1,600 o gleifion a gafodd eu rhyddhau o wasanaethau yn gynharach eleni yn ddiarwybod iddyn nhw, heb i neb eu hysbysu nhw. Mae nifer y gwelyau yn parhau i fod yn broblem aruthrol. Nid yw gwasanaethau plant a'r glasoed na'r gwasanaeth iechyd meddwl byth yn ddigonol, gyda chleifion yn parhau i gael eu hanfon gannoedd o filltiroedd i ffwrdd i gael triniaethau fel cleifion mewnol. Ac mae chwarter—chwarter—yr holl achosion diogelwch iechyd meddwl yn GIG Cymru yn achosion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n addas i ddod allan o fesurau arbennig.
Ychydig wythnosau yn ôl, y mis diwethaf, roeddech chi'n dweud bod yna heriau mawr yn parhau yn y gogledd. Ychydig wythnosau yn ôl, roeddech chi'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,
Yn benodol, roedd y grŵp yn dymuno cael rhywfaint o sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd o ran y cynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oedd hyn. Nawr, ai dyma'r adferiad mwyaf gwyrthiol ers i Lasarus gael ei gyfodi o blith y meirw neu a ydych chi'n ceisio twyllo pobl gogledd Cymru i feddwl bod gwasanaethau wedi gwella, a'r gwirionedd yw nad ydyn nhw wedi gwella?
Felly, rwy'n gofyn i chi, Gweinidog, sut allwch chi gyfiawnhau eich safbwynt chi o gofio bod llawer o'r materion ar y rhestr wreiddiol honno—ac rwy'n dyfynnu un, er enghraifft: ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Dyna un o'r rhesymau y cafodd y bwrdd ei roi mewn mesurau arbennig. Fe allaf i ddweud wrthych chi nad oes gan y cyhoedd yn y gogledd hyder o gwbl yn eich gallu chi i wella eu gwasanaethau. Dim ond dirywiad a welwyd ganddyn nhw yno, fel y dywedais i wrthych chi nawr, o ran rhai o'r ffeithiau hynny ar lawr gwlad. Felly sut y gallwch chi ddweud eich bod wedi ymdrin â'r mater hwnnw?
Sut allwch chi ddweud, pan mae cynifer o wasanaethau meddygon teulu yn fregus, a chymaint o wasanaethau yn destun ymyriad a rheolaeth gan y bwrdd iechyd, yr ymdriniwyd â'r pryderon hyn am wasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, yn arbennig gyda'r argyfwng sydd ar y gorwel nawr ym maes gofal deintyddol hefyd? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud yr ymdriniwyd â llywodraethu pan nad oedd y bwrdd iechyd ei hun yn gwybod beth oedd cyfradd yr heintiau a welwyd mewn ysbytai o ran COVID nes i mi dynnu eu sylw nhw at hynny? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud bod gwasanaethau iechyd meddwl yn well pan maen nhw, a dweud y gwir, gyn waethed nawr ag yr oedden nhw nôl yn 2015?
Wel, siomedig, ond nid anarferol efallai, yw'r ymateb afresymol a oedd i'w ddisgwyl gan Mr Millar. Mae'n anffodus ei fod yn gwrthod rhoi unrhyw glod i'r staff am y cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at ddod â'r mesurau arbennig i ben. Yn benodol, rwy'n atgoffa'r Aelodau, yn y Siambr hon ond yn allanol hefyd, nid yn unig o'r cynnydd a enillwyd yn sgil y broses dairochrog, y byddaf i'n dod yn ôl ati, ond yn benodol yr ymateb i'r pandemig, sef argyfwng gofal iechyd a ddaw unwaith mewn can mlynedd. Rwyf i o'r farn fod Betsi Cadwaladr a'i staff yn haeddu clod enfawr am yr ymateb. Rhyfedd iawn fyddai dweud y cafwyd ymateb o'r radd flaenaf i'r pandemig ac eto mae'n rhaid i'r sefydliad aros mewn mesurau arbennig, oherwydd byddai hynny'n cyd-fynd â safbwynt Mr Millar.
O ran sail y penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennig ar gyfer y sefydliad hwn, fe gyfeiriais i'n amlwg iawn ac yn eglur iawn at hyn yn y datganiad, yn union fel y gwnaethom ni o'r blaen wrth gyfeirio at ddiweddariadau ynglŷn â mesurau arbennig, am y cyngor o'r broses gynghori wrthrychol dairochrog. Mae prif weithredwr GIG Cymru, ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, yn rhoi cyngor imi yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog. Eu cyngor amlwg nhw oedd nad yw hwn bellach yn sefydliad sy'n teilyngu mesurau arbennig. Ac fe ddylwn i ddweud nad yw prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac Archwilio Cymru yn gwneud dewisiadau o ran eu cyngor nhw i mi ar sail gwleidyddiaeth y pleidiau. Mae'r awgrym gan Mr Millar i'r gwrthwyneb yn sen ar eu cywirdeb nhw ac mae'n fater y dylai ei dynnu'n ôl a'i ailystyried.
Y cyngor tairochrog yw'r cyngor; ond fi sy'n gwneud y penderfyniad. Nid yw ymyrryd wedi'i dargedu yn gyfystyr â dihangfa lwyr; mae angen mwy o gynnydd, fel yr eglurais i. Rwy'n credu y bydd pobl resymol yn cydnabod hynny, ond fe fyddan nhw hefyd yn cydnabod mai rhywbeth cadarnhaol o ran gofal iechyd yn y gogledd yw hyn, sy'n glod gwirioneddol i staff y bwrdd iechyd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn digwydd.
Diolch, Gweinidog. Diolch am ddatganiad sy'n cadarnhau bod Betsi Cadwaladr am aros ar lefel o ymyrraeth am gyfnod arall yn nwylo Llywodraeth Cymru, sydd wedi methu, yn ystod cyfnod o bum mlynedd a hanner, â datrys y problemau a'i rhoddodd mewn mesurau arbennig.
Rwy'n awyddus bob amser i ganmol staff rheng flaen y GIG, yng ngogledd Cymru, fel y gwnaf i yng ngweddill Cymru. Mae eu hymateb nhw i'r pandemig hwn wedi bod heb ei ail. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n adnabod llawer ohonyn nhw, ac rwy'n falch o'r gwaith a wnaeth pob un ohonyn nhw, a hynny'n ddiflino. Wrth ein gwahodd ni i'w canmol nhw'n benodol am ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig, a ydych chi'n dweud wrthym ni nad oedd ganddyn nhw ran i'w chwarae wrth ddod â'r mesurau arbennig yn y bwrdd i ben yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf? Yr hyn a welais i yw Llywodraeth Cymru yn methu â chymryd camau digonol, a chamau y gallech chi fod wedi eu cymryd nhw o'r blaen. Mae'r datganiad hwn, y fy marn i, yn dweud yn y bôn, 'Wyddoch chi beth? Ni allwn gael cynnydd, fe ymddengys, wrth inni aros mewn mesurau arbennig.' A yw wedi cymryd pum mlynedd a hanner i chi ddod i'r safbwynt hwnnw?
A sut wnaethoch chi gyrraedd y pwynt hwn ymhen ychydig wythnosau? Rydym ni nawr—ble rydym ni? 24 o fis Tachwedd. Roeddech chi'n dweud wrthym ar 7 Hydref fod yna broblemau mawr i'w hwynebu o hyd, ym maes iechyd meddwl yn arbennig. Ond nid heddiw yr oeddech chi'n penderfynu; yn gynharach y mis hwn, fe ymddengys, erbyn hynny, roedd y cyfarfod tairochrog wedi dweud wrthych chi, 'Mae popeth yn iawn'. Felly, mewn mater o dair neu bedair wythnos roedd pethau wedi trawsnewid yn llwyr. Ac mae hynny, i mi, yn ymddangos yn rhyfedd iawn, iawn.
Rydych chi'n dweud bod mesurau arbennig yn effeithio ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff. Unwaith eto, ai dim ond nawr yr ydych chi'n sylweddoli hynny, ar ôl cyfnod estynedig o fod â swyddi na ellir eu llenwi'n niweidiol ar y gallu sydd gennym i ddenu'r bobl orau i weithio ym maes iechyd yng ngogledd Cymru?
Wrth gwrs, ar ryw ystyr, rwy'n falch o weld symud ymlaen oddi wrth fesurau arbennig i gyfradd arall o ymyrryd. Ond rwyf i o'r farn o hyd, fel llawer o gleifion ac aelodau staff ym mwrdd Betsi Cadwaladr, fod angen dechrau newydd ar Ogledd Cymru. Mae wedi cymryd gormod o amser i gyrraedd y pwynt hwn ac ychydig iawn o ffydd sydd yn y ffordd y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt nesaf, pryd y gallwn ni ddweud mewn gwirionedd fod gennym ni, yng ngogledd Cymru, wasanaeth iechyd sy'n gweithio ac a gynlluniwyd mewn ffordd y mae'r staff a'r cleifion yn ei haeddu. Mae angen byrddau iechyd newydd ar gyfer gogledd Cymru, cychwyn newydd, ac ni chefais i fy argyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru yn deall y problemau gwirioneddol, yn enwedig ym maes iechyd meddwl, a oedd wrth wraidd rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, i'r graddau y gallaf i ddweud bod y broblem yn agos at gael ei datrys.
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n croesawu yn arbennig gydnabyddiaeth yr Aelod fod yr ymateb i'r pandemig gan staff a sefydliadau yn y gogledd wedi bod heb ei ail. Fe fu hwn yn ymateb cadarnhaol a thrawiadol iawn. Ac, unwaith eto, mae honno'n sylfaen i sefydliad lle byddai eraill wedi bod yn pryderu am allu'r sefydliad i weithio yn effeithiol yn wyneb pandemig unwaith mewn can mlynedd. Ac eto i gyd, mewn gwirionedd, maen nhw wedi ymateb yn sylweddol i'r her, nid yn unig gyda chreu ysbytai enfys, ond y ffordd y maen nhw wedi gweithio ar draws eu system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd. Ac rwy'n credu y dylai hynny roi mwy o hyder i fwy o bobl yn ystod gweddill y pandemig sy'n parhau y mae pob un ohonom ni'n dal i'w wynebu.
Ac, unwaith eto, i fynd yn ôl at y pwynt ynglŷn â'r cyngor a roddir a'r sicrwydd o'r diweddariad blaenorol a roddais i o'r cyfarfod tairochrog rheolaidd, yn y cyfarfod hwnnw, yn y drafodaeth ynghylch y gogledd, roedden nhw'n cydnabod bod cynnydd pellach wedi digwydd ac fe ofynnwyd am gyfarfod pellach am eu bod nhw'n ceisio cael sicrwydd pellach ar feysydd y cynnydd. Maen nhw wedi ystyried yr wybodaeth ychwanegol a roddwyd, ac mae'r grŵp hwnnw o bobl—prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru—wedi rhoi cyngor clir y dylai mesurau arbennig Betsi Cadwaladr ddod i ben, a dyna sail fy mhenderfyniad i.
Nid wyf i o'r farn ei bod yn anodd nac yn gymhleth deall hyn, ac, wrth gwrs, mae gan bobl eraill yr hawl i ddweud eu bod nhw'n diystyru cyngor Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Archwilio Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru. Mae ganddyn nhw yr hawl i ddweud hynny. Ac rwy'n credu bod gan bobl yr hawl i farnu ai dyna'r peth iawn i'w wneud yn eu barn nhw, fy mod i'n gwneud fy newis ar sail hynny, fel Gweinidog, neu am resymau mwy pleidiol i beidio â newid statws y sefydliad, ond ei gadw mewn mesurau arbennig pan mai'r cyngor gwrthrychol clir yw nad hwnnw yw'r peth iawn i'w wneud mwyach ar gyfer y sefydliad na'r bobl y mae hwnnw'n eu gwasanaethu.
Rwy'n cydnabod mai—. Mae gan yr Aelod farn glir a fynegodd ar fwy nag un achlysur, sef ei fod o'r farn y byddai ad-drefnu gyda mwy nag un bwrdd iechyd yn y gogledd yn cynnig dyfodol gwell. Nid wyf i o'r un farn ag ef. Rwyf i o'r farn y byddai'r colli'r ffocws, yr arian y byddech chi'n ei wario, a'r ffwdan, yn golygu cost wirioneddol ac yna fe fyddai'n rhaid ichi ail-wneud yr holl drefniadau partner hynny sydd wedi symud ymlaen yn bendant dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf. Felly, nid wyf i o'r un farn ag ef, ond rwy'n cydnabod bod ganddo berffaith hawl i fynegi ei farn i'r bobl. Fe fydd yr Aelodau yn penderfynu, ond fel y dywedais i, mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i holl staff y bwrdd iechyd ac yn wir i bob cymuned yn y gogledd a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad sylweddol a'r newyddion heddiw fod y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Er hynny, mae rhai pryderon yn dal gennyf yr hoffwn i eu codi nhw heddiw, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am eich sylwadau chi ar y rhain. Rwy'n dal i bryderu am wasanaethau iechyd meddwl yn benodol, ac fe fyddwn i'n croesawu eich barn chi ynglŷn â'r gwelliant sy'n digwydd yn y gwasanaeth. Yn ail, a wnewch chi amlinellu hefyd sut rydych chi'n teimlo y mae'r bwrdd iechyd yn perfformio o ran llawdriniaethau dewisol? Ac yn olaf, mae angen gwell darpariaeth o feddygon teulu ar rannau o Alun a Glannau Dyfrdwy yn benodol; mae lleoedd fel Saltney, yn enwedig, heb wasanaeth digonol. Felly pa mor hyderus ydych chi, Gweinidog, y bydd y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â hyn yn iawn? Ac os caf i, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, ddiolch ar goedd i'r holl staff ledled y gogledd yn y GIG, a ledled Cymru, nid am yr hyn y maen nhw'n ei wneud nawr yn unig ac yn parhau i'w wneud, ond am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud bob amser i'n cynorthwyo ni drwy gyfrwng y system gofal iechyd yng Nghymru? Diolch.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y tri maes penodol hyn o gwestiynau. Rwyf am ymdrin â nhw o'r tu ôl ymlaen. O ran practis cyffredinol, a Saltney yn benodol, fel y crybwyllodd ef, mae newyddion da gan fod pob cynllun yn y gogledd ar gyfer hyfforddi meddygon teulu wedi recriwtio neu or-recriwtio i'w gapasiti, felly rydym yn denu pobl i weithio ledled y wlad. Mae hyn yn newyddion da i Gymru gyfan, gan gynnwys y gogledd. Fe welsom ni rai heriau penodol ar ddechrau ein gwaith ni ar 'Hyfforddi. Gwaith. Byw.' i gael pobl i fanteisio ar y lleoedd hyfforddi sydd yn y gogledd. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae gennym nifer dros ben, sy'n sefyllfa dda iawn i fod ynddi o ran ein lleoedd arferol, ond rydym yn awyddus i gadw'r holl bobl hyn sy'n cael eu hyfforddi yn y gogledd, oherwydd rydym yn awyddus i annog pobl i ystyried y gogledd yn lle deniadol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Ac os yw'r Aelod yn dymuno cael sgwrs benodol ynglŷn â Saltney neu ardaloedd eraill yn ei etholaeth ef, yna fe fyddaf i'n hapus i drefnu hynny gyda'r bwrdd iechyd a/neu rhyngddo ef a minnau, ac fe edrychaf ymlaen at glywed mwy gan ei swyddfa i gael gwybod sut yr hoffai fwrw ymlaen â hynny.
O ran capasiti dewisol, fel yn achos Cymru gyfan, cafwyd her arbennig. Mae'r gogledd yn wynebu mwy o her na rhannau eraill o Gymru o ran gofal dewisol a gofal wedi ei gynllunio, yn rhannol oherwydd y ffordd y mae gofal iechyd arferol yn digwydd, ac fe fydd ef yn gwybod hyn, am fod ei etholaeth ef ar y ffin. Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â theithio dros y ffin i dderbyn peth o'u gofal iechyd nhw. Yn y dyfodol, fe allwn ni fod yn hyderus y bydd system Lloegr yn dal i fyny'n aruthrol o ran ei chapasiti dewisol hefyd. Rydym yn annhebygol o weld llawer iawn o gapasiti gofal wedi ei gynllunio yn system Lloegr. Dyna pam mae'r her orthopedig a nodais i a'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu yn bwysicach byth, i weld sefyllfa â mwy o gysondeb ynddi ar gyfer llawdriniaethau wedi eu cynllunio—orthopedig ac eraill—yn y gogledd cyn belled ag y bo modd cael hynny, yn ogystal â'r sgwrs y mae angen inni ei chael am ofal iechyd rheolaidd dros y ffin.
Ac o ran iechyd meddwl, mae yna bryder penodol y tynnais sylw ato yn fy natganiad i—unwaith eto, oherwydd y cynnydd o ran iechyd meddwl, ond yn sicr mae rhagor i'w wneud eto. Ac felly mae'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru' a gynlluniwyd gyda defnyddwyr gwasanaethau yn y gogledd—mae'n bwysig iawn gweld y trawsnewid hwnnw'n parhau, ac fe fydd hwnnw'n bryder arbennig y byddwn yn ceisio sicrwydd a chynnydd pellach arno yn y trefniadau ymyrryd wedi'i dargedu sydd ar waith. Felly, fe hoffwn i sicrhau'r Aelod a phawb arall sy'n gwylio fod iechyd meddwl yn bwysig iawn yn ein golwg ni—unwaith eto, o ran y daith anorffenedig tuag at welliant sy'n ofynnol o hyd. Ond yn ddiamau, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd mewn gwell cyflwr nawr nag yr oeddent pan gafodd y sefydliad ei roi mewn mesurau arbennig bum mlynedd yn ôl.
Mae Betsi Cadwaladr, yn ôl yr hyn a ddywedwch chi, allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun a Darren, ond fe fyddwn ni'n gweld yn y dyfodol sut y bydd hyn yn gweithio, ac fe fydd fy nghyfraniad i heddiw'n dal i sefyll. Rwyf i wedi bwrw golwg, Gweinidog, ar fy natganiad blaenorol i pan oedd y bwrdd mewn mesurau arbennig, ac ar fy ymatebion i, ac maen nhw i gyd ar yr un trywydd. Felly, fe allwn i, pe byddwn i'n dymuno gwneud hynny, gyflwyno'r union araith a roddais i ym mis Mehefin 2019. Er hynny, o ystyried y flwyddyn yr ydym ni i gyd wedi ei chael, lle mae'r GIG a gwasanaethau cysylltiedig ar y rheng flaen i raddau mawr iawn, credaf ei bod yn fwy priodol i fod mor adeiladol â phosibl.
Yn gyntaf, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i bawb yn y GIG sydd wedi cyfrannu at gadw gwasanaethau ar waith yn wyneb ofn, pwysau, salwch a marwolaeth. Mae'n ymddangos ein bod ni'n ennill brwydr COVID. Wrth i nifer yr achosion trwy'r byd godi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, nid yw marwolaethau wedi codi o'u cymharu â'r niferoedd hyn. Gweinidog, ni allaf i ond dychmygu pa mor aruthrol o fawr yw'r pwysau ar eich ysgwyddau chi. Mae'r ffaith eich bod chi'n dal i sefyll yn dystiolaeth i'ch dycnwch unigol chi. Er y gall unrhyw un o'r gwrthbleidiau anghytuno â'r dull a gymerir, rwy'n amau a fyddai unrhyw un yn y Siambr hon yn awyddus i gyfnewid lle â chi mewn gwirionedd—o leiaf yn ystod 2020. Fe wyddom ni fod Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig am y cyfnod hwyaf erioed ac, fel y dywedais i, a chan groesi bysedd, fe fydd eich dull chi o weithredu yn gweithio nawr. Ac roedd y cynnydd yn y cyllid o'r mis diwethaf i'w groesawu yn fawr iawn.
Yn eich tŷb chi, Gweinidog, pa wahaniaeth y mae bod mewn mesurau arbennig yn ei wneud i lefel y gwasanaeth a gynigir i'n hetholwyr ni, a sut fydd hynny'n newid nawr? Rwy'n ceisio cael gwybod a oedd mesurau arbennig yn golygu amseroedd aros hwy, mwy o anhawster i gael apwyntiad gyda meddyg teulu a gwasanaethau deintyddol sy'n fwy anodd cael atyn nhw? Oherwydd mae'n ymddangos i mi, yn ein byd ni sy'n adfer wedi COVID, y bydd pob dinesydd yng Nghymru yn cael anhawster ym mhob un o'r meysydd hyn oherwydd effaith y pandemig. Wedi gofyn y cwestiwn hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i, am un, wedi syrffedu ar y defnydd o'r gwasanaeth iechyd fel cocyn hitio gwleidyddol, sy'n digwydd o hyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi sylweddoli bod iechyd yn bwysicach na dim byd arall. Fe wyddom fod y gwasanaeth iechyd yn cymryd dros 50 y cant o ddyraniad y gyllideb ar gyfer yr holl wasanaethau datganoledig, ac fe gafodd ymateb COVID ledled y DU ei yrru gan y GIG—ei gapasiti, ei gyllid—ar draul pob maes arall o gymdeithas sifil, mae'n debyg.
Yn fy sylwadau i'ch datganiad chi am gefnogaeth strategol i Betsi Cadwaladr, fe soniais y gallai fod angen dull hollol wahanol i ddatrys yr hyn a welaf i yn broblem strwythurol gyda bwrdd iechyd y gogledd. Dyma'r bwrdd mwyaf yng Nghymru, felly efallai fod angen edrych ar hynny—y strwythur. Efallai ei bod hi'n bryd rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd yn gocyn hitio gwleidyddol. Mae'n bryd nawr ystyried pa fath o gomisiwn trawsbleidiol all gymryd cyfrifoldeb am iechyd y genedl a GIG Cymru. Wedi'r cyfan, ni cheir monopoli ar syniadau da na chyfrifoldeb gwleidyddol ar y cyd, ac mae'n siŵr bod elfen o gytundeb yn well na'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael, neu y byddwn ni'n ei chael heddiw. Diolch, Gweinidog.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe ddylwn i ddweud, o ran eich pwynt olaf chi, y gwnaethom ni, wrth gwrs, ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, fel yr oedd hi bryd hynny, y tymor Seneddol hwn bellach, ddechrau gydag adolygiad seneddol. Rhoddodd y grŵp UKIP ar y pryd gefnogaeth i greu'r grŵp hwnnw ac, yn wir, i'w aelodaeth hefyd. Felly, roedd gennym ni grŵp annibynnol o arbenigwyr a gyflwynodd adroddiad ar yr heriau sylweddol yr oeddem ni'n eu hwynebu a syniadau am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, ac fe arweiniodd hynny at 'Cymru Iachach', sef ein cynllun hirdymor ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Felly, rydym yn ceisio cyflawni'r trawsnewid y cawsom yn amlwg ein cynghori y byddai angen iddo ddigwydd, ac mae hynny'n golygu rhywfaint o grynhoad o wasanaethau arbenigol mewn ysbytai, yn ogystal â symudiad pellach tuag at ddarparu mwy o wasanaethau yn y gymuned. Ac mae'r symudiad hwnnw a'r diwygio at ddiben ym maes gofal iechyd yn bwysig iawn, ynghyd â'r camau bwriadol y gwyddom fod angen inni eu cymryd i greu system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n fwy integredig. Dyna pam rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa drawsnewid ac adeiladu'r gwasanaeth newydd hwnnw. Ac mewn gwirionedd mae'r pandemig wedi atgyfnerthu'r angen i wneud hynny. Mae wedi atgyfnerthu'r cynnydd a wnaethom eisoes hefyd o ran gwella'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
Unwaith eto, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â'r posibilrwydd o ad-drefnu gofal iechyd yn y gogledd. Nid wyf i'n credu bod cyflawni'r weledigaeth yn 'Cymru Iachach' yn gofyn am ad-drefnu'r bwrdd iechyd yn y gogledd, ond mae honno'n farn y mae gan yr Aelodau yr hawl iddi. Nid honno yw fy marn i, ond rwy'n edrych am y canlyniadau a'r cynnydd yr ydym ni'n bwriadu eu cael. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn gweld hynny yn y camau gweithredu, oherwydd fe wnaeth hi ddechrau trwy groesawu'r symudiad a chydnabod y byddai'n dymuno gweld y canlyniadau ar lawr gwlad. Ac i rywun sy'n byw yn y gogledd, mae hwnnw'n safbwynt cwbl resymol.
O ran mesurau arbennig, y rheswm dros fynd i fesurau arbennig oedd—. Roedd ein hasesiad ni o'r ddarpariaeth, yr ansawdd a statws parhaus mesurau arbennig yn ymwneud â'n hasesiad ni o'r cynnydd a wnaeth y sefydliad yn erbyn yr heriau hynny, ond hefyd yr hyder i'r dyfodol ynglŷn â chynnal y gwelliant. Oherwydd rwyf wedi adrodd yn rheolaidd bod rhywfaint o welliant wedi bod, ond rhaid cael hyder y bydd hwnnw'n cael ei gynnal a'i barhau yn y dyfodol. Rydym ni heddiw nawr wedi cyrraedd y pwynt lle maen nhw'n hyderus, ynghyd â'r cyngor tairochrog, nad hwn yw'r lle iawn i'r sefydliad erbyn hyn. Dyna pam y symudais i'r bwrdd allan o fesurau arbennig, ar sail y cyngor clir a gwrthrychol hwnnw.
Fe fydd canolbwyntio a chraffu ychwanegol yn parhau o hyd ar y bwrdd iechyd drwy ymyrryd wedi'i dargedu. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi'r cymorth ariannol fydd yn cyd-fynd â hynny i'w helpu nhw ar eu taith tuag at welliant. Rwy'n credu mai da o beth i bawb sy'n byw yn y gogledd yw bod y bwrdd iechyd bellach yn y sefyllfa hon o symud allan o fesurau arbennig, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gweld hyn yn y ffordd honno. Yn olaf, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei geiriau caredig am realiti ymdrin â'r pandemig. Mae llawer mwy o ddiwrnodau anodd o'n blaenau ni bob un.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Fel arfer, wrth gwrs, fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd o glywed eich bod chi'n cymryd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig. Yn wir, mewn cyfarfod diweddar yn y gogledd gydag Aelodau'r ddwy Senedd, roedd y cadeirydd ei hun yn edrych ymlaen at gael symud allan o fesurau arbennig oherwydd, fel y nodwyd yn gywir yma heddiw, recriwtio—wyddoch chi, mae hwn bron fel brand gwenwynig nawr, onid yw e, bwrdd Betsi, sy'n drist iawn. Ond, fe hoffwn gymeradwyo ar goedd sylwadau fy nghyd-Aelod Darren Millar a fynegodd ei ddiolch, ei ddiolchgarwch, ei werthfawrogiad yn huawdl i bawb sy'n gweithio yn y GIG ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar draws pob lefel, nid yn unig am eu gwaith nhw dan densiynau mesurau arbennig, ond am eu hymdrechion arwrol hefyd yn ystod pandemig COVID-19. Felly, unwaith eto, roedd yn gywilyddus iawn, Gweinidog, eich bod yn diystyru hynny.
Nawr, mae'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn mesurau arbennig yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall ym Mhrydain. Ers mis Mehefin 2015, mae bron i £100 miliwn wedi cael ei wario gan Lywodraeth Cymru dan eich cyfarwyddwyd chi ar gymorth ymyrryd a gwella, ond ni chyflawnwyd hynny. Nawr, fe wariwyd £1.7 miliwn ar sicrhau gwasanaethau cyhyrysgerbydol ac orthopedig cynaliadwy y llynedd. Ac eto i gyd, yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddwyd £30 miliwn gennych ar gyfer gwella gofal heb ei drefnu ac adeiladu rhaglen gofal wedi ei gynllunio sy'n gynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer orthopedeg. Nawr, er fy mod i'n deall ac yn gwerthfawrogi'n fawr fod yr argyfwng mewn orthopedeg wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, pan nad oes gennym gynllun cynaliadwy o hyd ar ôl buddsoddiad o £1.7 miliwn?
Ychydig wythnosau nôl, roeddech chi'n sôn am rai o'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Wel, fe allaf i ddweud wrthych, ar 3 Tachwedd eleni, sef 15 diwrnod gwaith mewn gwirionedd, fe wnaethoch ddatgan bod angen nifer o gamau gweithredu i wella arweinyddiaeth a llywodraethu ymhellach: bod angen datblygu strategaeth gwasanaethau clinigol integredig hirdymor, bod angen inni gryfhau ymhellach y capasiti i arwain o fewn iechyd meddwl i wella sefydlogrwydd a chydnerthedd, bod angen datblygu cynllun ariannol cadarn am dair blynedd i gyflawni dyletswyddau ariannol yn rhan o'r cynllun tymor canolig integredig, bod angen cwblhau a gweithredu fframwaith atebolrwydd a pherfformiad diwygiedig, a bod angen cyflawni gwelliannau mewn perfformiad, yn enwedig yn y sector acíwt. Dyna oedd—
A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda?
—ar 3 Tachwedd, Dirprwy Lywydd. Felly, sut ydych chi, mewn 15 diwrnod, wedi llwyddo i oresgyn yr holl bethau hynny yr oedd angen eu gwella? Nawr, gan eich bod chi'n tynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig—
A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda?
Gwnaf, rwyf i'n gwneud hynny—
Rydych chi wedi cael ymhell dros eich munud.
Fel y cafodd llawer Aelod arall.
Mae'n flin gen i. Fi sy'n penderfynu pwy sy'n cael gofyn beth, ac rwy'n gofyn ichi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda.
Iawn, rwy'n gwneud hynny. A wnewch chi gadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi ymateb i bob un o'r meysydd hynny? Ac a wnewch chi addo i'r Siambr hon nad oes cymhelliad gwleidyddol i'r symudiad hwn heddiw, a'i fod er budd cleifon y gogledd, ac nid er budd—
Na. Mae'n flin gen i. Diolch i chi. Y Gweinidog i ymateb. Cyn ichi wneud hynny, a gaf i atgoffa'r Aelodau o bleidiau sydd i ddilyn mai munud sydd ganddyn nhw, ac y dylai eich rheolwyr busnes orfodi hynny arnoch er mwyn i'r Siambr hon gael ei rhedeg yn ddiogel? Gweinidog.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ymdrin â'r pwyntiau penodol, ac yna fe fyddaf i'n dod nôl at y cyhuddiad ar y diwedd. Mae'n werth nodi ar gyfer—. Rwy'n credu bod elfen o gamddealltwriaeth yma o ran y sylwadau am y gwasanaeth cyhyrysgerbydol a'i gysylltiad ag orthopedeg. Mewn gwirionedd, y Gogledd gymerodd yr awenau o ran y dull gweithredu 'ffisio yn gyntaf' gan edrych ar ddull a oedd yn cael ei gyflwyno ac yn lleihau'r galw o fewn y gwasanaeth orthopedig. Lle'r oedd angen llawdriniaethau dewisol wedi eu cynllunio, mae hyn wedi bod o fudd mawr, ac mewn gwirionedd, mae'r gogledd wedi arwain ar rywfaint o'r gwaith hwnnw ac mae gweddill Cymru wedi elwa ar y profiad hwnnw. Felly, trwy fuddsoddi o amgylch y gwasanaeth hwn, rydym wedi osgoi'r angen am rai llawdriniaethau diangen, ac mae'n ymwneud hefyd â helpu pobl i ymdopi os oes angen iddyn nhw gael llawdriniaeth yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae'r cynllun orthopedig y cyfeiriais ato, mae hwnnw'n ymwneud â buddsoddi ar gyfer yr angen parhaol i amrywiaeth o bobl gael llawdriniaeth serch hynny. Felly, mae'n ymwneud â sut mae gennym ni gynllun y mae'r holl ganolfannau yn y gogledd yn ei dderbyn. Oherwydd ar ddechrau'r flwyddyn hon fe gefais i sylwadau gan Aelodau mewn gwahanol bleidiau a oedd wedi siarad â chlinigwyr mewn gwahanol rannau o'r gogledd, ac roedd gan bob un ohonyn nhw gynllun cystadleuol yr oedden nhw'n dymuno ei hyrwyddo. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle y gwelwn ni rywfaint o undod yn y grŵp clinigol. Maen nhw'n barod i ymrwymo i gynllun cyffredin, ac mae hyn yn ymwneud â chydymffurfio â'r cynllun hwnnw. Nid yw'n ymwneud yn unig â sut y byddwn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon; fe fydd angen rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf arno hefyd, ar hyd y daith, yn fy marn i. Felly, rwy'n edrych ymlaen at achos busnes unedig, terfynol sy'n ein galluogi ni i helpu'r gogledd i symud ymlaen gyda chynllun orthopedig i ymdrin â natur wirioneddol yr angen a'r galw. Mae'r gwasanaeth cyhyrysgerbydol y buddsoddwyd ynddo yn enghraifft dda iawn o'r gogledd yn cymryd yr awenau ac yn edrych ar sut y bydd yn diwygio ei wasanaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Ac yna'r cyhuddiadau ehangach a wnaed. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi dechrau trwy ddweud y byddai hi 'fel arfer' 'wrth ei bodd' gyda chynnydd y tu allan i fesurau arbennig, ac rwy'n credu bod yna fater yma, na chaiff ei gydnabod yn y Siambr hon yn unig, ond y tu allan hefyd, o wrthod cydnabod newyddion da a chynnydd da. Y cyhuddiad uniongyrchol a wnaeth y siaradwr Ceidwadol cyntaf oedd bod hyn rywsut yn ymarfer gwleidyddiaeth bleidiol. Nid yw prif weithredwr GIG Cymru yn rhoi cyngor trwy'r dull hwn. Nid yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac Archwilio Cymru yn darparu eu cyngor nhw trwy'r dull hwn—drwy drefniadau uwchgyfeirio ac ymyriad tairochrog. Ac mae Aelodau yn y Siambr hon yn gwybod hynny'n dda iawn. Nid yw'r awgrym fel arall, nad yw hyn yn ddim mwy nag ymarfer gwleidyddiaeth bleidiol, yn adlewyrchu'n dda ar unrhyw un o'r Aelodau Ceidwadol sydd wedi ceisio gwneud hynny. Fy mhenderfyniad i ar sail cyngor clir yw hwn. Rwy'n falch iawn o fod wedi gwneud y dewis hwn, ac rwy'n croesawu'r cynnydd sy'n digwydd yn y gogledd.
Ni allaf ond canmol y staff meddygol arwrol, sy'n gweithio'n galed yn ein hysbytai yn y gogledd. Mae'r pryderon mewn mannau eraill. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru atoch, gan atodi'r adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a ddisgrifiodd sut roedd y gwasanaeth yn methu mewn sawl ardal, a dweud, ar ôl bron i bum mlynedd yn destun mesurau arbennig, gyda llawer o hynny ymwneud â materion iechyd meddwl, fod y canfyddiadau hyn yn siomedig iawn. Nid yw cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru yn cydnabod y darlun a geir yn adroddiad y fframwaith gwella mesurau arbennig. Nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein llwyth achosion o gwynion ac eiriolaeth nac yn adroddiadau timau ymweld y cyngor iechyd cymuned. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethant gyhoeddi y byddant yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar Zoom, gan wahodd staff y GIG, cleifion, gofalwyr a theuluoedd i siarad am wasanaethau iechyd meddwl. Fel y dywedont,
Mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno profiadau ac awgrymiadau pawb sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a pholisïau.
Heddiw, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddant yn ystyried trefniadau ar gyfer arwain iechyd meddwl ac anableddau dysgu gyda'u prif weithredwr newydd Jo Whitehead pan fydd yn dechrau yn ei swydd yn y flwyddyn newydd. Pam nad ydych chi'n aros i'r pethau hyn ddigwydd, gan roi cleifion o flaen gwleidyddiaeth, yn hytrach na chamu i'r tywyllwch?
Mae'r penderfyniad hwn heddiw yn rhoi cleifion o flaen gwleidyddiaeth wrth wneud yr hyn sydd bob amser yn ddewis anodd, ond yn ddewis sy'n cael ei yrru gan y cyngor clir iawn a gawsom ni yn y broses driphlyg. Rwy'n cydnabod bod siaradwyr Ceidwadol wedi rhagbenderfynu peidio â derbyn na chydnabod y penderfyniad didwyll hwn. Mater iddyn nhw yw hynny, a bydd pobl sy'n gwylio yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch a ddylen nhw ymddiried ym marn gwleidyddion Ceidwadol y gogledd, neu'r cyngor clir, gwrthrychol gan brif weithredwr GIG Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy'n sail i'm penderfyniad i dynnu Betsi allan o fesurau arbennig.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.