Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Mae Betsi Cadwaladr, yn ôl yr hyn a ddywedwch chi, allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun a Darren, ond fe fyddwn ni'n gweld yn y dyfodol sut y bydd hyn yn gweithio, ac fe fydd fy nghyfraniad i heddiw'n dal i sefyll. Rwyf i wedi bwrw golwg, Gweinidog, ar fy natganiad blaenorol i pan oedd y bwrdd mewn mesurau arbennig, ac ar fy ymatebion i, ac maen nhw i gyd ar yr un trywydd. Felly, fe allwn i, pe byddwn i'n dymuno gwneud hynny, gyflwyno'r union araith a roddais i ym mis Mehefin 2019. Er hynny, o ystyried y flwyddyn yr ydym ni i gyd wedi ei chael, lle mae'r GIG a gwasanaethau cysylltiedig ar y rheng flaen i raddau mawr iawn, credaf ei bod yn fwy priodol i fod mor adeiladol â phosibl.
Yn gyntaf, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i bawb yn y GIG sydd wedi cyfrannu at gadw gwasanaethau ar waith yn wyneb ofn, pwysau, salwch a marwolaeth. Mae'n ymddangos ein bod ni'n ennill brwydr COVID. Wrth i nifer yr achosion trwy'r byd godi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, nid yw marwolaethau wedi codi o'u cymharu â'r niferoedd hyn. Gweinidog, ni allaf i ond dychmygu pa mor aruthrol o fawr yw'r pwysau ar eich ysgwyddau chi. Mae'r ffaith eich bod chi'n dal i sefyll yn dystiolaeth i'ch dycnwch unigol chi. Er y gall unrhyw un o'r gwrthbleidiau anghytuno â'r dull a gymerir, rwy'n amau a fyddai unrhyw un yn y Siambr hon yn awyddus i gyfnewid lle â chi mewn gwirionedd—o leiaf yn ystod 2020. Fe wyddom ni fod Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig am y cyfnod hwyaf erioed ac, fel y dywedais i, a chan groesi bysedd, fe fydd eich dull chi o weithredu yn gweithio nawr. Ac roedd y cynnydd yn y cyllid o'r mis diwethaf i'w groesawu yn fawr iawn.
Yn eich tŷb chi, Gweinidog, pa wahaniaeth y mae bod mewn mesurau arbennig yn ei wneud i lefel y gwasanaeth a gynigir i'n hetholwyr ni, a sut fydd hynny'n newid nawr? Rwy'n ceisio cael gwybod a oedd mesurau arbennig yn golygu amseroedd aros hwy, mwy o anhawster i gael apwyntiad gyda meddyg teulu a gwasanaethau deintyddol sy'n fwy anodd cael atyn nhw? Oherwydd mae'n ymddangos i mi, yn ein byd ni sy'n adfer wedi COVID, y bydd pob dinesydd yng Nghymru yn cael anhawster ym mhob un o'r meysydd hyn oherwydd effaith y pandemig. Wedi gofyn y cwestiwn hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i, am un, wedi syrffedu ar y defnydd o'r gwasanaeth iechyd fel cocyn hitio gwleidyddol, sy'n digwydd o hyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi sylweddoli bod iechyd yn bwysicach na dim byd arall. Fe wyddom fod y gwasanaeth iechyd yn cymryd dros 50 y cant o ddyraniad y gyllideb ar gyfer yr holl wasanaethau datganoledig, ac fe gafodd ymateb COVID ledled y DU ei yrru gan y GIG—ei gapasiti, ei gyllid—ar draul pob maes arall o gymdeithas sifil, mae'n debyg.
Yn fy sylwadau i'ch datganiad chi am gefnogaeth strategol i Betsi Cadwaladr, fe soniais y gallai fod angen dull hollol wahanol i ddatrys yr hyn a welaf i yn broblem strwythurol gyda bwrdd iechyd y gogledd. Dyma'r bwrdd mwyaf yng Nghymru, felly efallai fod angen edrych ar hynny—y strwythur. Efallai ei bod hi'n bryd rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd yn gocyn hitio gwleidyddol. Mae'n bryd nawr ystyried pa fath o gomisiwn trawsbleidiol all gymryd cyfrifoldeb am iechyd y genedl a GIG Cymru. Wedi'r cyfan, ni cheir monopoli ar syniadau da na chyfrifoldeb gwleidyddol ar y cyd, ac mae'n siŵr bod elfen o gytundeb yn well na'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael, neu y byddwn ni'n ei chael heddiw. Diolch, Gweinidog.