5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Diwygio'r drefn ar gyfer Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:05, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag undebau llafur a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i mi am yr heriau presennol a wynebir gan y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn sgil y pandemig. Rydym wedi ceisio darparu cymorth drwy gydol y cyfnod hwn lle bo hynny'n bosibl. Yn ogystal â chynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth y DU, rwyf wedi darparu cyllid drwy gam 3 ein cronfa cadernid economaidd gwerth £200 miliwn, sy'n cynnwys cynllun grant dewisol o £25 miliwn wedi ei weinyddu gan awdurdodau lleol ar gyfer cyfyngiadau symud.

Mae nifer o'r diwydiannau tacsis a cherbydau hurio preifat eisoes wedi elwa ar gronfa fusnes y cyfyngiadau symud a hefyd y gronfa cymorth dewisol. Hefyd, gallaf ddweud bod swyddogion yn archwilio dewisiadau ar frys i ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i gynorthwyo'r diwydiant i ddiogelu'r gyrwyr eu hunain a'u teithwyr rhag COVID-19. Rydym ni hefyd wedi sefydlu tudalen bwrpasol ar ein gwefan i roi cyngor i'r diwydiant ar ffyrdd o leihau trosglwyddiad y coronafeirws a'r cymorth ariannol sydd ar gael.

Mae swyddogion, Dirprwy Lywydd, wrthi'n datblygu nifer o gynlluniau treialu gydag awdurdodau lleol a fydd yn caniatáu i yrwyr brofi cerbydau dim allyriadau cyn eu prynu, fel y gallan nhw ddeall yn well y manteision ariannol ac amgylcheddol posibl. Ac maen nhw hefyd yn archwilio dewisiadau ar gyfer cynlluniau cymhelliant i gynorthwyo'r gyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn defnyddio'r cerbydau hyn yn y tymor hwy.

Heb os, mae cerbydau tacsis a cherbydau hurio preifat yn fath hanfodol o drafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw'n cynnig ateb ar gyfer trafnidiaeth ymarferol ac uniongyrchol ac maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle gall mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn annigonol neu'n absennol yn wir; i economi'r nos, gan gefnogi llawer o'n busnesau lletygarwch; ac, wrth gwrs, i deithwyr ag anableddau, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hwyluso cynhwysiant cymdeithasol. Am y rhesymau hyn mae ein Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn cynnwys cynllun ategol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.

Er hynny, mae'r ddeddfwriaeth bresennol ar dacsis a cherbydau hurio preifat wedi dyddio, gyda'r prif fframwaith yn dyddio'n ôl i 1847 a 1976. Mae'r fframwaith hwn wedi arwain at bolisïau, safonau ac amodau trwydded anghyson ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat, wrth gwrs, bellach yn fater datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017. Rydym yn atebol ar hyn o bryd, ond hyd nes y byddwn yn deddfu, ni allwn orfodi unrhyw newid. Nawr, mae nifer o broblemau'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol, sy'n cynnwys pryderon diogelwch i yrwyr a theithwyr, safonau trwyddedu anghyson, sy'n cyfrannu at broblemau llogi trawsffiniol, gwasanaeth cwsmeriaid gwael a dryswch cyhoeddus ynghylch mathau o gerbydau a strwythurau tocynnau. Ac mae'r problemau presennol, mae arnaf ofn, yn mynd i barhau i gynyddu wrth i'r diwydiant barhau i esblygu.

Nododd Llywodraeth y DU am y tro cyntaf fod angen diwygio yn ôl yn 2011 pan gynhaliodd Comisiwn y Gyfraith adolygiad o'r drefn bresennol. Ac yna hefyd, yn 2018, adroddodd grŵp gorchwyl a gorffen argymhellion ar gyfer gwella'r drefn trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae'r adolygiadau hyn wedi creu, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, disgwyliadau uchel iawn ymhlith rheoleiddwyr a'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat y bydd newid. Fodd bynnag, ar wahân i ychydig o welliannau bach a chyhoeddi safonau tacsis a cherbydau hurio preifat statudol yr Adran Drafnidiaeth yn ddiweddar, nid yw Llywodraeth y DU wedi diwygio deddfwriaeth tacsis mewn gwirionedd.

Ers datganoli rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat i Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi cynnal dau ymgynghoriad mawr. Mewn ymateb i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus', roeddem yn cydnabod bod cefnogaeth gyffredinol i'r cynigion yn ymwneud â safonau cenedlaethol, i bwerau gorfodi a rhannu gwybodaeth gwell. Ond, roeddem hefyd yn derbyn, o ganlyniad i'r ymgynghoriad, fod teimlad cryf nad oedd y cynigion yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael yn effeithiol â'r heriau presennol a wynebir gan y diwydiant a rheoleiddwyr.

Felly, yn sgil hyn, fe wnes i ymrwymiad y byddai'r cynigion ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu datblygu ymhellach ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddrafftio cynigion polisi sy'n adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y Papur Gwyn. Canolbwyntiwyd y cynigion hyn ar wella pedwar maes: yn gyntaf oll, diogelwch, yn ail, cydraddoldeb, yn drydydd, safonau amgylcheddol ac yna, yn bedwerydd, gwasanaeth cwsmeriaid. A'n nod yw cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol sy'n cefnogi teithwyr yn ogystal â chefnogi'r diwydiant ei hun. Mae angen deddfwriaeth newydd i wneud tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddiogel ac yn rhan o system drafnidiaeth integredig ledled Cymru ac i broffesiynoli'r diwydiant a sicrhau y gall gyrwyr wneud bywoliaeth dda a theg. Rydym yn ceisio cyflawni hyn drwy ddatblygu ac ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol newydd a byddwn yn disodli'r cyfundrefnau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat dwy haen dryslyd gydag un gyfundrefn dacsis.

Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i archwilio rhinweddau newidiadau i awdurdodau trwyddedu pan gaiff cerbydau weithredu'n genedlaethol, ac eithrio mewn parthau cyfyngedig lle mae tystiolaeth o orgyflenwad, er enghraifft, yma yng Nghaerdydd, a byddwn yn creu safonau trwyddedu cenedlaethol ar gyfer gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr, gyda phwyslais ar sicrhau'r diogelwch cyhoeddus mwyaf posibl a phroffesiynoli'r diwydiant. Yn ogystal, bydd pwerau gorfodi yn cael eu cynyddu a'u cynorthwyo gan gronfa ddata a chofrestr genedlaethol.

Fel man cychwyn, cyn newid deddfwriaethol, mae swyddogion wedi gwneud gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau lleol ledled Cymru i nodi meysydd polisi trwyddedu y gellir eu gwella a'u gwneud yn fwy cyson. Mae hyn wedi arwain at gytundeb ar gyfres o argymhellion ar gyfer alinio polisi tacsis. Mae cyfyngiadau ar y gwaith hwn, gan fod polisïau trwyddedu'n amrywio'n fawr ledled Cymru, ac roedd swyddogion yn ofalus i sicrhau na fyddai mabwysiadu'r argymhellion yn golygu unrhyw gost sylweddol i awdurdodau lleol nac, yn wir, i'r diwydiant cyn newid deddfwriaethol ehangach. Serch hynny, bydd yr argymhellion hyn yn gam tuag at safonau trwyddedu cenedlaethol a phroffesiynoli'r diwydiant, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd.