Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Dirprwy Lywydd, hoffwn yn gyntaf gydnabod y rhan hollbwysig y mae'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn ystod pandemig COVID. Mae llawer wedi parhau i weithio drwyddi draw ac wedi darparu cludiant i weithwyr allweddol, yn ogystal â darparu gwasanaethau sy'n amlwg wedi galluogi darparu nwyddau, bwyd a chyflenwadau meddygol hanfodol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd yn ariannol i'r diwydiant, gyda chyfyngiadau'n golygu bod y galw arferol gan gwsmeriaid yn eithriadol o isel.