Part of the debate – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
Cynnig NDM7489 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.
2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.
3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.
4. Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.
Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol;
b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;
c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;
d) parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym;
e) parhau â’n hymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.