Mercher, 25 Tachwedd 2020
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. A chyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy...
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid ar draws Llywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiad y Canghellor ynghylch £600 miliwn o symiau canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth y DU? OQ55901
Felly, fe symudwn ni nawr i gwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Nick Ramsay
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu trethi newydd cyn diwedd y Senedd hon? OQ55933
4. Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddyrannu yn y gyllideb i gefnogi ardal Pontypridd yn sgil COVID-19? OQ55926
5. Pa ddyraniadau cyllidebol ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu darparu i gefnogi Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ55928
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwyliau treth trafodion tir sydd ar waith yng Nghymru tan 31 Mawrth 2021? OQ55938
7. Pa ystyriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi i hyrwyddo datblygiad economaidd trefi ym Mlaenau'r Cymoedd wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, trafnidiaeth a gogledd Cymru? OQ55929
8. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi strategol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ55914
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gostyngiad yng nghyfanswm y dyraniad refeniw a chyfalaf ar gyfer portffolio'r amgylchedd, ynni a materion gwledig yn yr ail gyllideb atodol ar gyfer...
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer myfyrwyr yn dychwelyd i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd? OQ55924
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon cyflenwi? OQ55916
Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19? OQ55920
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn cefnogi disgyblion ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd? OQ55908
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cwricwlwm newydd? OQ55941
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y coronafeirws rhag lledaenu mewn ysgolion yn asymptomatig er mwyn amddiffyn athrawon a disgyblion? OQ55940
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig ar weithredu'r cwricwlwm newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55923
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Suzy Davies. Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am faint o wyliau blynyddol a gronnwyd gan staff a'r effaith a gaiff hyn ar ei gyllid? OQ55925
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gylchrediad aer yn y Senedd ac adeiladau Tŷ Hywel? OQ55936
3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei ymgysylltiad presennol â phlant a phobl ifanc yng Nghymru? OQ55913
4. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo rhith-fynediad at drafodion y Senedd gan y cyhoedd? OQ55921
5. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gefnogaeth ar gyfer gwaith Senedd Ieuenctid Cymru? OQ55904
6. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am unrhyw gynlluniau i newid cylch etholiadol y Senedd? OQ55942
Cwestiynau amserol oedd eitem 4, ac nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi'u derbyn.
Felly, symudwn at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Daw'r datganiad cyntaf yr wythnos hon gan Vikki Howells.
Dyma ni yn ailgychwyn, a'r eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yw hwnnw, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Siân Gwenllian.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 6 yn enw Siân Gwenllian.
Rydym yn awr wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf heno ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff. Galwaf am bleidlais...
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar David Rees i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. David.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y pandemig COVID-19 ar gyllidebau ysgolion?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch sefyllfa ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia