Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:41, 25 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi fydd y Gweinidog yn cytuno efo fi pa mor annigonol ydy pwerau fiscal Llywodraeth Cymru, a bod hynny wedi cael ei amlygu yn y pandemig presennol. A all y Gweinidog amlinellu pa opsiynau mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried i gynyddu'r cyllid refeniw a chyllid cyfalaf sydd ar gael iddyn nhw i ddelio efo materion presennol yn ymwneud â'r pandemig, ac i adeiladu yn ôl yn well, fel rydyn ni i gyd yn dymuno ei weld yn digwydd?