Dyrannu Cyllid

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:36, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n bwysig iawn, fel y dywedais wrth Russell George, fod Llywodraeth Cymru yn cael canlyniadau'r ymarfer cysoni hwnnw, fel y gallwn ddeall ar gyfer beth yn union y mae'r cyllid canlyniadol rydym wedi’i dderbyn hyd yma, ac yna gallwn ddeall yn well p’un a fydd cyllid pellach yn cael ei ddarparu cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gwn fod rhai trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ynglŷn â chefnogaeth bellach i'r sector diwylliannol, ac yn sicr, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn yn awyddus i gael trafodaethau pellach yn ei gylch gydag Eluned Morgan a Dafydd Elis-Thomas.