Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Wel, fel y dywed Rhun ap Iorwerth, byddai unrhyw fondiau’n cyfrif tuag at ein benthyca fel Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs mae gennym y terfyn cyfanredol hwnnw o £1 biliwn ac uchafswm benthyca o £150 miliwn mewn unrhyw flwyddyn, sy’n swm cymharol fach o arian rhwng popeth. Bydd hefyd yn ymwybodol o'r trafodaethau rydym eisoes wedi’u cael, y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio defnyddio'r mathau rhataf o fenthyca yn gyntaf, ac wrth gwrs, mae bondiau ar y pen drutach, a dyna pam nad yw'n rhywbeth rydym wedi mynd ar ei drywydd hyd yn hyn. Ond rwy'n rhannu ei awydd i gael mwy o hyblygrwydd o ran benthyca, a chynyddu'r swm y gallem ei fenthyca bob blwyddyn, ond gan gynyddu'r ffigur cyfanredol cyffredinol hwnnw hefyd.