Trethi Newydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:48, 25 Tachwedd 2020

Roeddwn i'n amau efallai fyddai yna ddim amser, ond mae yna un dreth newydd, gweddol newydd, yn cael ei gweithredu yng Nghymru ers tua thair blynedd erbyn hyn, sef y dreth trafodiadau tir. Y bore yma, fe glywodd y Prif Weinidog a finnau gyflwyniadau dirdynnol a phwerus iawn gan drigolion o Ben Llŷn sydd yn cael eu prisio allan o'u cymunedau oherwydd cynnydd anferth mewn pryniant ail gartrefi. Fe allai cynyddu’r raddfa uwch o'r dreth trafodion tir gael ei ddefnyddio fel ffordd fechan o geisio lliniaru'r argyfwng ail gartrefi. Fedrwch chi esbonio pa gamau fyddai angen i'r Llywodraeth a chithau fel Gweinidog eu cymryd er mwyn cynyddu'r raddfa uwch yma—proses eithaf syml y gellid ei rhoi ar waith yn syth?