Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Weinidog, ymddengys i mi fod angen i economi'r DU ymadfer, ac yn bwysicach, mae angen iddi dyfu. Mae’n rhaid i'r ymagwedd yn y dyfodol ymwneud i raddau mwy ag annog gwariant a thwf a hyder, a pheidio â rhwystro pob un o'r rhain drwy orfodi unrhyw feichiau treth uwch yng Nghymru. A ydych yn cytuno â'r datganiad hwnnw?