Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Rwy’n derbyn y byddai’n anodd iawn cyflwyno trethi newydd cyn diwedd tymor y Senedd hon, sydd bedwar neu bum mis i ffwrdd yn unig, ond gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i drethi presennol. A wnewch chi ystyried ychwanegu mwy o fandiau uwch at y dreth gyngor? Credaf ei bod yn warthus fod rhywun sy'n talu £400,000 am dŷ, neu rywun sydd â thŷ gwerth oddeutu £400,000, yn talu'r un dreth gyngor â rhywun sydd â thŷ sy’n werth £2.5 miliwn neu £3 miliwn. Hefyd, thema sy'n codi dro ar ôl tro—atal eiddo a adeiladir fel eiddo preswyl rhag cael eu cofrestru fel busnesau bach a chael rhyddhad ardrethi busnesau bach.