Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Fel y dywedais wrth Rhun ap Iorwerth yr wythnos diwethaf, gan fod y contract yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif, mae arnaf ofn nad ydym yn bwriadu ei gyhoeddi. Ond mae elfen o elw bob tro pan fyddwn yn caffael seilwaith. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, bydd union swm yr elw hwnnw'n cael ei bennu gan berfformiad y cwmni dros oes y contract, a dyna un o fanteision cynllun y model buddsoddi cydfuddiannol, yn yr ystyr fod y tâl yn gysylltiedig i raddau helaeth â pherfformiad.
Cafodd ansawdd a phris cyflwyniadau pob un o’r tri chynigydd ar y rhestr fer eu profi drwy’r ymarfer caffael, a chyflwynodd Meridiam y tendr mwyaf buddiol yn economaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, felly gallaf yn sicr ddarparu’r sicrwydd hwnnw, ac fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, mae gan Lywodraeth Cymru ran yn yr ymarfer hwn hefyd, sy'n golygu y byddwn yn elwa ar unrhyw elw a wneir ynghyd â'r partneriaid eraill hynny.