Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le, yn yr ystyr fod y dyraniadau a’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchiad o werthoedd Llywodraeth y DU i raddau helaeth, a’r pethau sydd bwysicaf iddynt. O'm rhan i, cyn adolygiad o wariant y Canghellor heddiw, ysgrifennais at y Canghellor yn ei annog i gadw rhag rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus, ac i ddarparu’r cyllid sydd ei angen arnom yma yng Nghymru er mwyn diogelu iechyd, swyddi a chefnogi adferiad teg. Ac mae gwir angen i'r Trysorlys ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddo i gefnogi’r gweithwyr ar y rheng flaen sydd wedi gwneud cymaint drosom ni yng Nghymru a ledled y DU drwy gydol y pandemig hwn. Ac mae'r penderfyniad heddiw yn gosod gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus yn erbyn ei gilydd, sy'n peri cryn bryder, ond yn amlwg, mae’n siomedig iawn ac yn ddiangen.