Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, Andrew. Mae Llywodraeth Cymru'n adolygu'r rheoliadau a'r canllawiau mewn perthynas â theithio yn ystod cyfnod y Nadolig a thu hwnt wrth inni barhau i fonitro cyfraddau trosglwyddiad yng Nghymru. Mae'n rhy gynnar i gadarnhau unrhyw drefniadau a fydd ar waith mewn perthynas â phrifysgolion yn y flwyddyn newydd.