Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Weinidog, credaf fod y cynlluniau i bob plentyn yng Nghymru gael hawl orfodol i addysg rhyw a chydberthynas sy'n briodol i'w datblygiad yn un o gryfderau mawr y cwricwlwm newydd. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i gytuno â mi fod cael y ddarpariaeth honno'n hanfodol o safbwynt hawliau plant, a hefyd ei bod yn allweddol er mwyn sicrhau y gall plant a phobl ifanc gadw eu hunain yn ddiogel, ni waeth beth yw eu hoed?