Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, Jack, am roi'r cyfle i mi gofnodi fy llongyfarchiadau diffuant i bawb sy'n ymwneud ag Ysgol Tŷ Ffynnon yn Sir y Fflint, sef yr ysgol gyntaf un yng Nghymru i gael y wobr hon. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad tîm yr ysgol honno i ddod yn ymgorfforiad byw o'r addewid yng nghenhadaeth ein cenedl i sicrhau ysgolion cwbl gynhwysol sy'n ymdrechu i ddiwallu anghenion eu holl blant.