Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, Leanne. Rwy'n parhau i gael fy arwain gan y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Rydym wedi cytuno'n ddiweddar â sefydliadau addysg uwch ledled Cymru y byddwn yn manteisio ar y cyfle i dreialu profion asymptomatig ar fyfyrwyr a staff, ac rydym hefyd yn bwriadu cynnig profion i fyfyrwyr a staff mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal â'r coleg lleol, fel rhan o'r rhaglen profi torfol ym Merthyr Tudful.