Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, Andrew. Ie, a gallwn roi'r ymrwymiad hwnnw. Wrth osod cyllideb atodol, yn amlwg, byddai'n rhaid inni egluro'r rheswm dros wneud hynny, a byddai hynny'n esbonio lefel y gwyliau cronedig a'r gwerth sydd ynghlwm wrth hynny. Ond a gaf fi ddiolch i chi am fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch, os hoffech, aelodau'r Comisiwn a'u staff, sydd, yn wir, wedi mynd y tu hwnt i'r galw, fel rydym ni fel Aelodau wedi'i wneud mewn gwirionedd, yn ystod cyfnod anodd iawn i sicrhau ein bod yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda? Diolch.