Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Mae'r Senedd yn adeilad sy'n cael ei awyru'n naturiol, gan ddefnyddio ffenestri sy'n agor yn awtomatig ar gyfer y mannau agored a system bibellau awyr iach ar gyfer y Siambr, ystafelloedd pwyllgora a mannau caeedig eraill. Mae gan Dŷ Hywel system awyru sy'n dod ag aer ffres i fannau mewnol a system ar wahân sy'n echdynnu aer mewnol i'r tu allan. Mae gan Dŷ Hywel ffenestri y gellir eu hagor ar gyfer awyru hefyd.