Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Wel, mewn gwirionedd, rydym wedi comisiynu rhai pethau o ran gosod ffenestri newydd yn y Senedd ym mhob rhan o Dŷ Hywel, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei ystyried pan fydd yn digwydd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, ar yr adeg hon, ers inni ddod yn ôl ym mis Medi, fod defnydd o'r ystâd wedi aros yn isel yn ystod y pandemig, gydag oddeutu 15 y cant o bobl yma ar ddiwrnodau gwaith. Mae hyn wedi sicrhau ein bod yn gallu cydymffurfio'n effeithiol â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol a systemau eraill sydd ar waith i atal trosglwyddiad COVID yn unol â chanllawiau ac arferion gorau.