Ymgysylltiad â Phlant a Phobl Ifanc

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:09, 25 Tachwedd 2020

Diolch am y cwestiwn. Mae'r pandemig wedi ei gwneud hi'n heriol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn enwedig trwy ysgolion a grwpiau ieuenctid. Mae rheoliadau yn ei gwneud hi'n amhosib inni groesawu ysgolion i'r Senedd neu i ymweld â nhw. Am ran o'r flwyddyn, felly, bu'r tîm yn canolbwyntio ar greu adnoddau y gall gweithwyr addysg proffesiynol eu defnyddio eu hunain. Fodd bynnag, ers mis Hydref, rydym wedi profi galw cynyddol am sesiynau rhithwir i ysgolion, a byddwn ni'n cynnig mwy o'r rheini yn yr wythnosau sydd i ddod. Rydym wedi cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru i symud ei gweithgareddau ar-lein. Fe wnaethon nhw gyhoeddi adroddiadau ar wastraff sbwriel a phlastig, a chymorth iechyd emosiynol a meddyliol, ac fe wnes i gadeirio eu Cyfarfod Llawn diwethaf ar Zoom ar 14 Tachwedd. Fel rhan o'n cyfres o ddigwyddiadau GWLAD, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod rhithwir yn edrych ar y dyfodol i bobl ifanc yng Nghymru a'u profiadau nhw o'r pandemig. Mae staff y Comisiwn wedi gweithio gyda phobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol hefyd i gyd-gynhyrchu ystod o ddeunyddiau i hyrwyddo pleidleisio ar 16 ar gyfer etholiad fis Mai nesaf.