Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fod yn falch iawn o'r bobl ifanc a'r hyn y maent wedi'i gyflawni yn yr amgylchiadau anodd hyn, ac rwy'n credu y byddem i gyd eisiau diolch yn fawr iawn i'r staff sydd wedi eu galluogi i barhau â'u gwaith yn yr un ffordd, wrth gwrs, ag y mae staff y Senedd wedi ein galluogi i barhau â'n gwaith ninnau.
Rwyf wedi bod yn bryderus, er hynny, am lesiant emosiynol yr Aelodau ifanc. Ni fydd eu profiad o fod yn Aelodau ifanc o'r Senedd fel roeddent wedi'i ddisgwyl. Felly, a allwch chi gadarnhau, Lywydd, fod aelodau o staff yma wedi bod mewn cysylltiad â'r gweithwyr proffesiynol—gweithwyr ieuenctid ac eraill—sy'n cefnogi'r bobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn iawn? Yn ogystal â hynny, fel y dywedoch chi, mae'r tymor cyntaf wedi dod i ben, mae wedi bod yn hynod gynhyrchiol, maent wedi gwneud llawer iawn o waith ac rwy'n siŵr yr hoffem i gyd ddiolch iddynt. A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am y camau sydd ar waith i baratoi ar gyfer yr etholiadau nesaf ar gyfer ein seneddwyr ifanc nesaf? Mae'n bosibl y bydd hynny'n cael ei wneud, wrth gwrs, mewn cyfnod heriol lle mae gan ysgolion a grwpiau ieuenctid lawer o gyfrifoldebau na fyddent fel arfer yn gorfod ymdopi â hwy. Felly, rwy'n gobeithio bod ystyriaeth a chynllunio'n digwydd mewn perthynas â'r ffordd y gallwn sicrhau bod ein Senedd Ieuenctid nesaf mor effeithiol ag y mae hon wedi bod.